Cyfeirio ymchwiliad Neil McEvoy i'r Comisiynydd Safonau

  • Cyhoeddwyd
Neil McEvoy

Mae BBC Cymru ar ddeall fod Plaid Cymru wedi trosglwyddo cwynion yn erbyn yr AC Neil McEvoy i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad.

Mae rhai o'r bobl oedd wedi cwyno wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn anhapus nad oedd y blaid wedi gofyn iddynt cyn gwneud y penderfyniad.

Maent hefyd yn anhapus fod manylion y cwynion wedi'u trosglwyddo i Mr McEvoy cyn lansio ymchwiliad ffurfiol.

Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: "Ni allwn wneud sylwadau ar faterion disgyblu sydd heb eu cwblhau."

Cod ymddygiad

Doedd Mr McEvoy ddim ar gael i wneud sylw, ond dywedodd yn y gorffennol y byddai'n amddiffyn ei hun yn erbyn y cwynion.

Cafodd Aelod Cynulliad Canol De Cymru ei wahardd dros dro o grŵp Plaid yn y Cynulliad yn gynharach eleni dros honiadau ei fod wedi torri rheolau'r blaid.

Ym mis Mawrth, lansiwyd ymchwiliad mewnol ar ôl i gyhuddiadau yn ei erbyn gael eu gwneud ar wefannau cymdeithasol.

Chwe mis yn ddiweddarach fe wnaeth panel disgyblu'r blaid gwrdd i drafod a oedd unrhyw sail i ymchwilio ymhellach i dri chwyn a gyflwynwyd.

Mae rhai o'r rheiny oedd wedi cwyno wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn teimlo rhwystredigaeth am hyd y broses ac am ddiffyg tryloywder.

Maen nhw hefyd yn ddig bod Plaid wedi trosglwyddo eu cwynion i Gomisiynydd Safonau'r Cynulliad heb ofyn am eu caniatâd.

Yn ôl y canllawiau newydd a gyhoeddwyd fis diwethaf gyda chytundeb holl arweinwyr y pleidiau yn y Cynulliad: "Byddwn yn cyfeirio unrhyw honiadau o dorri'r Cod yn y dyfodol i'r Comisiynydd. Ym mhob achos, byddwn yn gwneud hyn gyda chaniatâd yr achwynydd."

Bydd Comisiynydd Safonau'r Cynulliad, y cyn-farnwr Uchel Lys Syr Roderick Evans yn ymchwilio i'r cwynion. Mae'r canllawiau newydd yn dweud y "bydd y Comisiynydd yn ymchwilio i bob cwyn yn erbyn Aelod o'r Cynulliad".

'Ymgyrch yn fy erbyn'

Dywedodd Comisiwn y Cynulliad na fyddan nhw'n cadarnhau a oedden wedi derbyn unrhyw gwynion yn erbyn Aelod ai peidio.

Mae comisiynydd safonau Senedd y DU yn cyhoeddi rhestr o enwau'r ASau sy'n cael eu hymchwilio.

Wrth gynnal Ymchwiliad Rhagarweiniol, mae canllawiau Comisiynydd Safonau'r Cynulliad yn dweud: "Efallai y bydd y Comisiynydd yn cysylltu â'r achwynydd i gael rhagor o fanylion ac i ganfod a yw ef neu hi yn fodlon rhyddhau ei enw neu ei henw i'r Aelod y cwynir amdano a'r Pwyllgor."

Mae un o'r achwynwyr wedi dweud wrth BBC Cymru eu bod yn ystyried gwneud cwyn yn erbyn Plaid Cymru i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth am ryddhau manylion y gŵyn i Mr McEvoy heb ganiatâd.

Ym mis Medi, honnodd Mr McEvoy fod "ymgyrch i geisio niweidio fy enw da gan y sefydliad".

"Ni fyddaf yn derbyn unrhyw honiadau anghywir," meddai.