Apêl yr heddlu wedi ymosodiad yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Stryd Fawr AbertaweFfynhonnell y llun, Google

Mae dyn 39 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Treforys wedi ymosodiad yng nghanol Abertawe.

Cafodd plismyn arfog eu danfon i ardal Stryd Fawr y ddinas tua 20:40 nos Sadwrn mewn ymateb i'r digwyddiad ac i sicrhau diogelwch y cyhoedd.

Mae dyn 29 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ymosod ac mae yn y ddalfa yng ngorsaf heddlu canol Abertawe.

Mae'r ddau ddyn yn byw yn lleol yn ôl datganiad Heddlu De Cymru.

Mae'r heddlu'n gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu gysylltu gyda Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111 gan ddyfynnu'r cyfeirnod 1700499668.