Canslo pantomeim Aladdin yn Abertawe oherwydd difrod dŵr

  • Cyhoeddwyd
theatr y grand abertaweFfynhonnell y llun, Google

Mae trefnwyr wedi gorfod canslo perfformiad yn Abertawe ddydd Sadwrn ar ôl i bibell ddŵr fyrstio yn y theatr.

Roedd pantomeim Aladdin i fod i gael ei lwyfannu brynhawn a nos Sadwrn yn Theatr y Grand yn y ddinas.

Ond dywedodd y theatr fod y difrod o bibell ddŵr oedd wedi chwalu wedi effeithio ar systemau trydanol yr adeilad.

Mae'n debyg fod disgwyl y byddai cynulleidfa o tua 2,000 ar gyfer y perfformiadau ddydd Sadwrn.

Yn ddiweddarach yn y prynhawn fe gadarnhaodd y theatr fod y pibellau bellach wedi eu trwsio, ac y byddai perfformiad ddydd Sul yn mynd yn ei flaen.

Mewn neges ar Twitter fe ddywedon nhw eu bod yn "parhau i ymddiheuro i'r holl gwsmeriaid gafodd eu heffeithio oherwydd i ni ganslo heddiw".

Ychwanegodd y theatr fod modd i bobl gysylltu â'u swyddfa docynnau unwaith eto gan fod y trydan yn yr adeilad wedi dychwelyd, ond y byddai'n debygol o fod yn brysur.

Mae'r pantomeim, sydd yn cynnwys perfformiadau gan Tony Maudsley, Matt Edwards a Kevin Johns, i fod i redeg nes 14 Ionawr 2018.