Y Gynghrair Genedlaethol: Wrecsam 3-3 Barrow
- Cyhoeddwyd
Cafodd rheolwyr Wrecsam a Barrow eu hel o'r cae funudau cyn diwedd y gêm ar y Cae Ras wrth i'r ymwelwyr sicrhau gêm gyfartal yn y munudau olaf.
Cafodd rheolwr y Dreigiau Dean Keates a rheolwr Barrow Ady Pennock eu hel i'r eisteddle yn ystod amser ychwanegol, cyn i Callum MacDonald unioni'r sgôr i'r ymwelwyr.
Chris Holroyd gafodd gôl gynta'r tîm cartref, cyn i Jordan White o Barrow fanteisio ar gamgymeriad y gôl-geidwad Chris Dunn a dod a'r sgôr yn gyfartal.
Aeth yr ymwelwyr ar y blaen diolch i Dan Jones, ond yna cafwyd dwy gôl gan James Jennings a Scott Boden i'r Dreigiau, cyn i Callum MacDonald sicrhau'r pwynt i Barrow.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Rhagfyr 2017