Cwmni ariannol AON i sefydlu pencadlys yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni yswiriant a chyllid rhyngwladol wedi penderfynu agor pencadlys un o'u busnesau yng Nghaerdydd.
Fe fydd cwmni AON yn sefydlu prif swyddfa adran Affinity ym mhrifddinas Cymru, gan roi addewid i greu dros 100 o swyddi.
Bydd Affinity yn rhedeg rhaglenni busnes ac yswiriant ar gyfer sefydliadau a chwsmeriaid AON.
Mae Caerdydd eisoes yn gartref i nifer o gwmnïau a gwasanaethau ariannol fel Admiral a Deloitte, ac mae Affinity wedi nodi hyn fel ffactor yn y penderfyniad i agor y swyddfa yno.
'Ffyniannus a chadarn'
Dywedodd Rheolwr Gyfarwyddwr y cwmni, Martyn Denney: "Mae gan Gaerdydd sector gwasanaethau ariannol ac yswiriant ffyniannus a chadarn a all wasanaethu cwsmeriaid mewn modd rhagorol.
"Roedd y ffactorau hyn yn rhai allweddol wrth i'r cwmni benderfynu agor swyddfa yn y ddinas."
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod mynediad i brosiectau hyfforddi i raddedigion wedi helpu i gadw talent Cymreig.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates, bod "ymrwymiad" yn rhan ganolog o raglen fuddsoddi i "ddatblygu perthynas newydd a deinamig rhwng y llywodraeth a busnesau sy'n seiliedig ar yr egwyddor o fuddsoddi arian cyhoeddus at ddiben cymdeithasol".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Chwefror 2016
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2017