Llafur i ddewis ymgeisydd isetholiad Alun a Glannau Dyfrdwy
- Cyhoeddwyd
Fe fydd aelodau'r Blaid Lafur yn etholaeth Alun a Glannau Dyfrdwy yn dewis eu hymgeisydd ar gyfer isetholiad y Cynulliad ddydd Mercher.
Mae'r sedd wedi bod yn wag ers marwolaeth y cyn-weinidog Carl Sargeant, gafodd ei ganfod yn farw yn ei gartref ar 7 Tachwedd.
Mab 23 oed Mr Sargeant, Jack, ydy un o dri aelod ar gyfer enwebiad y blaid.
Y ddwy arall yw cynghorydd Sir y Fflint, Carolyn Thomas, a chynghorydd tref Saltney, Hannah Jones.
Isetholiad ym mis Chwefror
Fe fydd y bleidlais yn cael ei chynnal yng Nghanolfan Ddinesig Cei Connah, a hynny yn dilyn hystings.
Y dyddiad cau ar gyfer enwebiadau ydy 10 Ionawr, ac fe fydd yr isetholiad yn cael ei gynnal ar 6 Chwefror.
Yn etholiad y Cynulliad 2016, enillodd Carl Sargeant sedd Alun a Glannau Dyfrdwy dros Lafur gyda 45.7% o'r bleidlais, a mwyafrif o 5,364.
Mae dwy blaid eisoes wedi dewis ymgeiswyr: y Ceidwadwyr wedi dewis cyn-nyrs, Sarah Atherton, a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dewis cynghorydd lleol, Donna Lalek.
Mae proses Plaid Cymru i ddewis eu hymgeisydd yn parhau, tra bod UKIP wedi dweud mai dim ond os na fydd Jack Sargeant yn ennill enwebiad Llafur y byddant yn cynnig ymgeisydd.
Cafodd Mr Sargeant ei ddarganfod yn farw yn ei gartref yng Nghei Connah ddyddiau ar ôl iddo golli ei swydd cabinet yn dilyn honiadau am ei ymddygiad.
Roedd wedi dweud y byddai'n brwydro i adfer ei enw da, ac mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi gorchymyn ymchwiliad annibynnol i amgylchiadau'r diswyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd10 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd4 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd1 Rhagfyr 2017
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2017