Galw am ymrwymiad i swyddi'r llywodraeth yng Nghaernarfon

  • Cyhoeddwyd
swyddfa
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddfa Llywodraeth Cymru yng Nghaernarfon wedi bod ar werth ers rhai wythnosau

Mae Plaid Cymru wedi gofyn am "ymrwymiad lawn" i sicrhau fod swyddi Llywodraeth Cymru yn parhau yng Nghaernarfon, wythnosau ar ôl i'w swyddfeydd gael eu rhoi ar werth.

Mae BBC Cymru yn deall y bydd y 76 o aelodau staff presennol yn cael eu symud i swyddfeydd yn ardal Doc Fictoria o'r dref ymhen deufis.

Mae Plaid Cymru yn pryderu am ddyfodol tymor hir y swyddi yng Nghaernarfon, ac maen nhw felly wedi gofyn am eglurhad ac ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru na fydd symud swyddfa yn y dref yn golygu colli unrhyw swyddi.

Yn ôl AC Arfon, Siân Gwenllïan, fe ddylai Llywodraeth Cymru "ddangos esiampl" a "buddsoddi yn y rhan yma o ogledd Cymru", gan fod eisoes 42% yn llai o bobl yn gweithio yn y swyddfa nag oedd yn 2010.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Siân Gwenllïan wedi bod yn Aelod Cynulliad Plaid Cymru dros Arfon ers 2016

Dywedodd Ms Gwenllïan: "'Da ni wedi gwneud ymchwil, ac mae'r gostyngiad yn y nifer o swyddi yng Nghaernarfon yn dipyn uwch nag ydy o ar draws Cymru - 42% yma yng Nghaernarfon, o'i gymharu â 18% ar draws Cymru [ers 2010].

"A beth sy'n canu clychau rŵan ydy fod yr adeilad yma ar werth. Mae'r swyddi sydd yma i gael eu lleoli mewn adeilad fydd ar rent.

"Mae 'na les pum mlynedd o'r hyn dwi'n ddeall - ac wrth gwrs mae rhywun yn bryderus iawn mewn sefyllfa felly.

"Mi faswn i'n licio cael ymrwymiad pendant gan y prif weinidog bod y swyddi yma i aros yng Nghaernarfon.

"Y nod o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg - ydy hynny mewn gwirionedd yn nod, ta geiriau gwag?

"Os ydych chi'n tanseilio'r Gymraeg yn yr ardal lle mae hi ar ei chryfaf, dydi hynny ddim yn argoeli'n dda."

'Dim colli swyddi'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydd Llywodraeth Cymru yn adleoli ei swyddfa bresennol ym Mhenrallt yng Nghaernarfon i safle newydd yn y dref yn Noc Fictoria.

"Bydd y symud yn golygu llai o ofod diangen a chostau cynnal a chadw, ac yn gwella safon y cyfleusterau i staff a'r cyhoedd yn sylweddol yn y lleoliad pwysig yma.

"Ni fydd y symud yn golygu colli unrhyw swyddi."