Cam-leoli carthffos ysgol yn costio £800,000 i gyngor

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Gynradd Six BellsFfynhonnell y llun, Cyngor Blaenau Gwent
Disgrifiad o’r llun,

Argraff arlunydd o Ysgol Gynradd Six Bells

Mae cyngor sir wedi gorfod neilltuo £800,000 i dalu am waith ychwanegol i safle ysgol newydd gwerth £7.5m gan fod carthffos wedi ei nodi yn y lle anghywir ar gynlluniau technegol y safle.

Bydd gan Ysgol Gynradd Six Bells le i 360 o ddisgyblion pan fydd yn agor yn 2019 fel rhan o raglen Ysgolion y 21ain Ganrif.

Mae Cyngor Blaenau Gwent wedi cymeradwyo rhoi £800,000 ychwanegol ar ôl i Dŵr Cymru fethu â nodi union leoliad y garthffos.

Dywedodd Dŵr Cymru y bydd yn "gweithio'n agos gyda'r awdurdod lleol i sicrhau bod y cynllun yn cael ei gwblhau'n llwyddiannus".

Fe gafodd y cyngor arian gan Lywodraeth Cymru i godi'r adeilad, ond fe benderfynodd ariannu unrhyw waith ychwanegol o'i gyllideb ei hun.

Mae disgwyl i'r gwaith gychwyn yn y gwanwyn a chael ei gwblhau yn ystod haf 2019.

Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor: "Fel rhan o'r archwiliadau safle cynnar cyn adeiladu, fe ddaeth i'r amlwg y gellid fod angen gwaith ar garthffos Dŵr Cymru sy'n rhedeg o dan y safle, allai fod angen ei dargyfeirio."

Trafodaethau pellach

Ychwanegodd bod hi'n arferol i gynnal archwiliadau o'r fath yn achos datblygiadau o'r un maint.

Mae BBC Cymru yn deall bod gan y cyngor syniad bras o ble mae'r garthffos, ond mae angen archwiliadau pellach er mwyn cadarnhau'r union leoliad a gwneud gwaith plymio i'r adeilad.

Ffynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr ysgol newydd yn cymrud lle dwy ysgol arall, gan gynnwys Ysgol Gynradd Stryd y Frenhines

Mae'r cyngor wedi cytuno i gynnal trafodaethau pellach gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn ag unrhyw gostau ychwanegol.

Dywedodd llefarydd o Dŵr Cymru eu bod wedi sicrhau bod y cyngor yn "gallu parhau gyda'u gweithgareddau adeiladu wrth gynllunio'r gwaith sydd ei angen i ailgyfeirio un o'n pibellau sy'n rhedeg drwy'r safle".

Bydd yr ysgol yn derbyn disgyblion sy'n cael eu haddysg ar hyn o bryd yn ysgolion Ffordd Bryngwyn a Strd y Frenhines.

Fe fydd yn cynnwys meithrinfa ar gyfer hyd at 60 o blant ac yn gallu derbyn hyd at naw o blant gydag anghenion dysgu ychwanegol.