AC yn beirniadu ysbyty wedi marwolaeth ei thad 91 oed
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad o'r gogledd wedi beirniadu'r lefel o ofal wnaeth ei thad oedrannus dderbyn yn yr ysbyty cyn ei farwolaeth.
Bu farw Jack Finch, tad Janet Finch-Saunders AC, yn Ysbyty Glan Clwyd yn Ebrill 2017. Roedd yn 91 oed.
Wrth roi tystiolaeth dywedodd Mrs Finch-Saunders nad oedd hi'n gallu ymdopi â'r "anwiredd" o du Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.
Fe wnaeth crwner yn Rhuthun gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol ar Mr Finch, oedd yn gyn faer Llandudno.
Ond dywedodd John Gittins er bod fod y gofal a gafodd Mr Finch wedi bod yn dda, cytunodd fod cyfathrebu o bryd i'w gilydd yn gwbl annigonol.
Dywedodd Mrs Finch-Saunders AC Ceidwadol Aberconwy wrth y cwest ddydd Gwener fod ei thad wedi diodde' gyda'i bengliniau a gwahanol broblemau, gan gynnwys sepsis.
Yn ôl Mrs Finch-Saunders ar un achlysur doedd ei thad ddim yn gallu cael ei ryddhau o'r ysbyty gan "nad oedd pecyn gofal" ar gael iddo.
Roedd ei phrif feirniadaethau yn ymwneud â'i gyfnod olaf yn yr ysbyty yng ngwanwyn 2017.
Aed ag ef i'r ysbyty oherwydd nad oedd yn teimlo'n iach, ond gwnaed penderfyniad i gynnal llawdriniaeth ar ei ben-glin oherwydd pryder y byddai'n dioddef o sepsis pe na bai hyn yn digwydd.
Dywedodd iddi fynegi ei phryder nad oedd ei thad yn ddiogon iach ar gyfer y driniaeth, gan fod anhwylder ar ei frest.
Dywed yr ysbyty fod y llawdriniaeth wedi bod yn llwyddiannus.
Cafodd Mrs Finch-Saunders wybod fod troed ei thad hefyd wedi cael ei 'sythu'.
Ond dywedodd hi na chafodd caniatâd ei roi ar gyfer hynny - a'i bod dan yr argraff y byddai hynny wedi digwydd yn ddiweddarach fel rhan o gyfres o lawdriniaethau.
Ar ôl y llawdriniaeth fe ddirywiodd cyflwr ei thad, a bu farw yn ddiweddarach.
Dywedodd wrth y cwest yn Rhuthun: "I'r dydd hwn rwy'n credu fod y llawdriniaeth wedi bod yn ormod iddo."
Dim digon o adnoddau'
Dywedodd nad oedd hi o'r farn fod yr ysbyty wedi ceisio ei adfywio yn ôl ei ddymuniad, er i'r ysbyty ddweud eu bod wedi ceisio gwneud hyn.
Gofynnodd y crwner iddi a oedd hi'n credu iddo gael lefel gwahanol o ofal oherwydd ei oedran. Atebodd "Ydw."
Ychwanegodd ei bod o'r farn nad oedd gan yr ysbyty ddigon o adnoddau.
Dan ddagrau dywedodd: "Roedd wedi bod yn weithiwr caled ar hyd ei oes. Roedd wedi wynebu nifer o sefyllfaoedd anodd dros y blynyddoedd, ond cafodd ei adael i lawr a hynny'n wael."
Dywedodd fod yna "fethiant sylfaenol gan Lywodraeth Cymru" ac nad oedd "gwersi yn cael eu dysgu."
'Proses syml'
Fe wnaeth y cwest hefyd glywed gan feddygon Ysbyty Glan Clwyd, gydag un yn dweud y byddai wedi bod yn beth ffôl i beidio cywiro troed Mr Finch yn ystod llawdriniaeth, gan ei fod yn broses eithaf syml.
Yn ôl un ymgynghorydd, Gerallt Owen, roedd y staff yn "asesu pobl fel unigolion...doedd oedran ar ben ddim yn rhwystr ar gyfer triniaeth feddygol," meddai.
Dywedodd Mr Owen pan gafodd Mr Finch ei asesu doedd o ddim o'r farn "fod ganddo anhwylder ar y frest."
Yn ôl Emma Hoskin, anaesthetegydd ymgynghorol, doedd oedran heb fod yn ffactor o gwbl gan ychwanegu fod Mr Finch wedi derbyn lefel uchel o ofal.
Clywodd y cwest fod Mr Finch hefyd yn dioddef gyda phroblemau i'w galon a'i iau.
Wrth gofnodi rheithfarn o farwolaeth ddamweiniol dywedodd y crwner fod Mr Finch wedi mawr o fethiant ar y galon a bod y llawdriniaeth "wedi bod yn ormod i'r claf yn y pendraw."
Dywedodd na fyddai yn cyhoeddi adroddiad i'r awdurdodau iechyd gyda chanllawiau ar sut i atal marwolaethau yn y dyfodol.
Ond ychwanegodd na ddylai pobl ystyried hynny fel buddugoliaeth i'r bwrdd iechyd.
Ar ôl yr achos dywedodd prif weithredwr Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr: "Unwaith yn rhagor rwy'n cydymdeimlo gyda theulu Mr Finch. Fel ddywedodd y crwner, roedd yn drist iawn bu farw Mr Finch yn fuan wedi llawdriniaeth yn Ebrill 2017, ond roedd y gofal a dderbyniodd o safon uchel."