Cyfweld Bellamy, Giggs a Roberts am swydd rheolwr Cymru

  • Cyhoeddwyd
Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Osian RobertsFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Bydd Craig Bellamy, Ryan Giggs ac Osian Roberts yn cael eu cyfweld ar gyfer swydd rheolwr tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru yr wythnos nesaf.

Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru'n gobeithio cael olynydd i Chris Coleman mewn lle cyn i'r enwau ddod allan o'r het ar gyfer cystadleuaeth newydd Cynghrair y Cenhedloedd ar 24 Ionawr.

Mae'r tri wedi mynegi eu diddordeb yn y swydd ar ôl i Coleman adael am Sunderland ym mis Tachwedd.

Ond dyw hi ddim yn glir os mai'r tri enw yma'n unig sydd ar y rhestr fer.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Gymdeithas Bêl-droed yn gobeithio cael olynydd i Chris Coleman mewn lle erbyn 24 Ionawr

Fe sgoriodd Bellamy 19 gôl mewn 78 gêm dros Gymru rhwng 1998 a 2013.

Ar hyn o bryd, ei rôl yw rheolwr datblygu chwaraewyr gyda Chlwb Pêl-droed Caerdydd.

Fe wnaeth Giggs sgorio 12 gôl wrth iddo ennill 64 cap rhwng 1991 a 2007, ond mae wedi bod yn chwilio am swydd newydd ers gadael tîm hyfforddi Manchester United yn haf 2016.

Ef oedd rheolwr y clwb am bedair gêm yn 2014, cyn treulio dwy flynedd fel is-reolwr yn ystod cyfnod Louis van Gaal.

Mae Roberts wedi bod yn rhan o dîm hyfforddi Cymru ers 2010 pan gafodd y diweddar Gary Speed ei benodi'n rheolwr.

Cafodd ei wneud yn is-reolwr gan Coleman yn 2015, gan helpu llywio'r tîm i rownd gynderfynol Euro 2016.