Cymdeithas yn beirniadu diffyg Cymraeg yn y Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi galw ar aelodau cabinet Llywodraeth Cymru i siarad mwy o Gymraeg yn y Cynulliad.
Mae'r ymgyrchwyr wedi cyhoeddi ystadegau, gan ddweud bod defnydd o'r iaith gan ACau "yn dal i fod yn isel".
Ers etholiad y Cynulliad yn 2016, 12% o'r amser siarad yn y siambr sydd wedi bod yn y Gymraeg.
Dywedodd Llywodraeth Cymru bod hanner y gweinidogion yn siarad Cymraeg ac yn ei "defnyddio'n rheolaidd yn y siambr".
Wrth ymateb ar y Post Cyntaf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei bod hi'n bwysig "hybu" yn lle "mynnu fod pobl yn siarad Cymraeg".
'Testun pryder'
Daw'r ystadegau o Gofnod y Cynulliad ac maen nhw'n canolbwyntio ar gyfarfodydd llawn yn unig - nid pwyllgorau.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith, mae "diffyg defnydd o'r Gymraeg gan weinidogion wedi cyfrannu at y ffigyrau".
10% o'r amser mae'r Prif Weinidog Carwyn Jones yn defnyddio'r Gymraeg, tra bod defnydd yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas - y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon - o'r iaith wedi gostwng o 95% yn 2015 i 73% ers 2016.
AC Plaid Cymru dros Arfon, Siân Gwenllïan, sydd â'r ganran uchaf, gan ddefnyddio'r Gymraeg 99% o'r amser yn ystod cyfarfodydd llawn.
Y Llywydd Elin Jones sy'n ail ar y rhestr, gan ddefnyddio'r iaith 84% o'r amser.
AC arall Plaid Cymru, Simon Thomas sydd wedi siarad y mwyaf o Gymraeg, gan gyfrannu cyfanswm o 82,304 gair yn yr iaith ers 2016.
'Testun pryder'
Dywedodd Osian Rhys o Gymdeithas yr Iaith ei bod yn "destun pryder bod yr iaith yn cael ei siarad cyn lleied yn ein corff democrataidd cenedlaethol".
"Un peth sy'n ymddangos fel patrwm yw'r diffyg defnydd gan weinidogion y llywodraeth fyddai'n gallu gwneud defnydd llawer mwy o'r Gymraeg," meddai.
"Mae'n debyg ei bod hi'n arfer gan weinidogion i wneud y rhan fwyaf o'u hareithiau yn Saesneg ac ymateb i gwestiynau Saesneg yn Saesneg, a hynny er bod gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael bob amser.
"Er enghraifft, mae'n ddadlennol bod Dafydd Elis-Thomas, yr Aelod Cynulliad oedd â'r defnydd uchaf yn 2015, yn siarad Cymraeg yn llai aml yn ystod ei gyfraniadau yn y Cynulliad nawr ei fod yn weinidog."
Wrth ymateb ar y Post Cyntaf, dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones ei fod yn "beth pwysig i ateb cwestiwn yn yr iaith mae'r cwestiwn wedi ei ofyn".
Ychwanegodd: "Rhaid i chi gofio hefyd i rywun fel fi 'dyw rhan fwyaf o'n etholwyr i ddim yn siarad Cymraeg, felly 'wi moyn cysylltu'n uniongyrchol â nhw.
"Be' sy'n bwysig yw mae'n rhaid inni hybu pobl nid mynnu fod pobl yn siarad Cymraeg."
Wrth ymateb i feirniadaeth Cymdeithas yr Iaith, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae hanner gweinidogion Llywodraeth Cymru'n siarad Cymraeg ac yn ei ddefnyddio'n rheolaidd yn y siambr ac wrth wneud gwaith ar ran y llywodraeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Gorffennaf 2017
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2015