Abertawe'n anrhydeddu dau o gewri cerddorol Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae dau o fawrion y byd cerddorol Cymreig wedi cael graddau er anrhydedd gan Brifysgol Abertawe.
Cafodd y cyfansoddwr a'r cyfeilydd, Eric Jones, ei anrhydeddu mewn seremoni ddydd Llun.
Fe gafodd cyfraniad Huw Tregelles Williams, organydd, darlledwr a chyfarwyddwr cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, ei gydnabod gan y brifysgol yn ogystal.
Mae gan y ddau wreiddiau yn ardal Abertawe - cafodd Mr Williams ei eni yn Nhregŵyr, tra fod Mr Jones wedi ei fagu ym Mhontarddulais.
Llywydd côr meibion
Fel cyfansoddwr, mae Mr Jones wedi cyhoeddi saith cyfrol o ganeuon, ac mae ei gerddoriaeth wedi'i chwarae mewn neuaddau fel yr Albert Hall.
Mae'n llywydd ar Gôr Meibion Pontarddulais ar ôl bod yn gyfeilydd iddynt rhwng 1973 ac 1991, ac yn adnabyddus am feirniadu cystadlaethau canu a chyfansoddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
Ym Mhontarddulas cafodd ei eni a'i fagu, a derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg Tregŵyr cyn mynd ymlaen i ennill gradd mewn cerddoriaeth o Brifysgol Cymru yng Nghaerdydd.
Fe ddechreuodd ei yrfa fel athro yn Llanelli ac Abertawe, cyn treulio cyfnod fel dirprwy yn Ysgol Gyfun Gŵyr.
Bu'n brifathro ar Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin o 1997 tan ei ymddeoliad yn 2006.
Wedi cael addysg yn Ysgol Ramadeg Llanelli, datblygodd Mr Williams ddawn yn chwarae'r organ. Ar ôl cyfnod yn astudio yn y brifysgol, ymunodd â'r BBC fel cynhyrchydd cerddoriaeth.
Daeth yn bennaeth cerddoriaeth BBC Cymru yn 1985 cyn cael ei benodi'n gyfarwyddwr cyntaf Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn 1993.
Yn y cyfnod hwn, fe gomisiynodd waith gan nifer o gyfansoddwyr Cymreig a rhyngwladol ynghyd â chyfresi cerddoriaeth ar gyfer y teledu.
Mae hefyd wedi cynhyrchu Songs of Praise a rhaglenni i S4C, a chynnal cyngherddau a datganiadau mewn llefydd mor amrywiol ag Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Neuadd y Dref Sydney.
'Braint'
Gan ddweud ei bod hi'n "fraint" derbyn yr anrhydedd, dywedodd Mr Williams ei bod hi'n "bleser chwarae rhan" ym mywyd celfyddydol Abertawe.
Dywedodd Mr Jones ei fod yntai hefyd wrth ei fodd i dderbyn yr anrhydedd, "yn enwedig gan y brifysgol sydd â'i gwreiddiau yn Abertawe, ble cefais fy ngeni a fy magu, a ble es i'r ysgol a gweithio am nifer o flynyddoedd".
Dywedodd is-ganghellor y brifysgol, Syr Roderick Evans y gallai feddwl am "neb gwell i gynrychioli angerdd Cymru tuag at gerddoriaeth nag Eric Jones" tra fod Mr Williams wedi "chwarae rôl allweddol wrth gadw'r broses ardderchog o ganu'r organ yn fyw i gynulleidfa deledu".