Cynllun rheoli moroedd am gael 'effaith negyddol'

  • Cyhoeddwyd
DolffiniaidFfynhonnell y llun, Redders48
Disgrifiad o’r llun,

Pryder rhai grwpiau bywyd gwyllt yw y bydd y cynllun yn dadwneud ymrwymiadau sydd eisoes yn eu lle i warchod natur

Gallai cynllun hir-ddisgwyliedig ynglŷn â rheoli moroedd Cymru gael "effaith negyddol sylweddol" ar fywyd gwyllt, yn ôl elusennau amgylcheddol.

Mae disgwyl i Aelodau Cynulliad drafod drafft Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn ddiweddarach.

Bron i ddegawd ers dechrau ar y gwaith o'i lunio, y bwriad yw egluro sut ddylai moroedd Cymru gael eu defnyddio a'u gwarchod dros yr 20 mlynedd nesaf.

Yn ôl Llywodraeth Cymru maen nhw'n anelu at sicrhau moroedd "glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol".

Effaith ar fywyd gwyllt

Ond mae rhai grwpiau bywyd gwyllt wedi codi pryderon.

Tra'n dweud bod y cynllun yn cyflwyno "gweledigaeth gref a chlir" ar gyfer y dyfodol mae Clare Reed, Swyddog Polisi Morol Cymru ar gyfer Cymdeithas Cadwraeth y Môr, yn pryderu y "gallai'r cynllun gael effaith negyddol sylweddol ar fywyd gwyllt morol a'r cynefinoedd maen nhw yn ddibynnol arnynt".

Dywedodd Alec Taylor, sy'n bennaeth adran Rheoli Morol WWF UK, mai'r broses o gynhyrchu'r ddogfen o dros 300 tudalen oedd yr "ymarferiad mwyaf cymhleth erioed" ynghylch moroedd Cymru.

Er bod yr elusen yn croesawu'r ymdrech, mae ganddi bryderon ynglŷn â'r pwyslais sy'n cael ei roi ar "sicrhau'r buddiannau economaidd mwyaf posib o'n moroedd, heb ystyried yn ddigonol sut y bydd hynny'n effeithio ar ecosystemau morol".

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynllun gan Lywodraeth Cymru yn canolbwyntio ar sut i warchod a defnyddio moroedd Cymru dros yr 20 mlynedd nesaf

Yn y cyfamser, mae RSPB Cymru wedi'u "syfrdanu" gan elfennau o'r cynllun.

Yn ôl cyfarwyddwr yr elusen, Katie-Jo Luxton, mae rhai o'r polisïau sydd wedi'u hamlinellu yn y ddogfen yn bygwth dadwneud rhai o ymrwymiadau presennol y llywodraeth i natur a datblygiad cynaliadwy.

Y gefnogaeth i gyfres o forlynnoedd llanw "gydag amodau cyfyngedig iawn" yw'r enghraifft waethaf, meddai.

"Er bod Llywodraeth Cymru yn siarad lot am roi natur wrth galon eu polisïau a chwilio am atebion 'win-win', ry'n ni'n gynyddol bryderus eu bod nhw'n methu ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol ac yn parhau i flaenoriaethu datblygiadau yn hytrach na natur."

Cynllun arloesol

Mae moroedd Cymru'n gorchuddio 15,000km2 ac yn cyfrif am 43% o arwynebedd y wlad, gyda dros 60% o'r boblogaeth yn byw a gweithio ar yr arfordir.

Y cynllun drafft, dolen allanol, gafodd ei gyhoeddi ychydig cyn y Nadolig, yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru a bydd yn cael ei ddefnyddio gan y sawl sy'n gwneud penderfyniadau cynllunio allai effeithio ar arfordir a moroedd y wlad.

Yn draddodiadol, mae anghenion y gwahanol sectorau sy'n defnyddio'r môr - fel pysgota, twristiaeth ac ynni - wedi cael eu rheoli ar wahân, ond nod y cynllun yma yw dod â'r cyfan ynghyd.

Mae'n sôn am gymryd "ymdriniaeth ecosystem," gan gydbwyso'r anghenion i warchod amgylchedd morol iach a chynaliadwy tra'n ei ddefnyddio hefyd i greu swyddi a hybu economi Cymru.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lesley Griffiths mae'r cynllun yn cefnogi'r holl sectorau perthnasol

Gallai moroedd y wlad gyfrannu'n sylweddol, yn ôl y ddogfen, i gyflenwadau ynni a thargedau allyriadau carbon trwy gynnig cartref i ddatblygiadau ynni carbon isel.

Mae angen i fynediad a mwynhad pobl o'r amgylchedd morol fod yn flaenoriaeth hefyd, er mwyn gwella eu hiechyd.

Unwaith mae'r cynllun wedi'i fabwysiadu, bydd rhaid i weinidogion Cymru adrodd yn rheolaidd i ba raddau y mae eu hamcanion wedi'u cyflawni.

Fframwaith i'r sectorau

Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio, fel bod modd i bobl fynegi barn cyn i'r ddogfen gael ei chwblhau'n derfynol.

Cydnabod wnaeth yr Ysgrifennydd Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths fod y broses o gyflawni'r gwaith wedi bod yn heriol i Lywodraeth Cymru a'r grwpiau niferus oedd wedi cyfrannu.

"Yng Nghymru mae twristiaeth, trafnidiaeth, ynni'r môr, pysgodfeydd, dyfrddiwylliant, telegyfathrebu, a'r diwydiant agregau ymysg eraill yn hynod bwysig i'n heconomi morol," meddai.

"Mae'r cynllun yn cefnogi'r diwydiannau hyn a'n cymunedau glan môr, trwy ddarparu fframwaith ar gyfer eu galluogi i ddefnyddio adnoddau morol Cymru mewn ffordd gynaliadwy."