Dyn wedi marw ar ôl cael 'ei wasgu gan stolion mewn lifft'

  • Cyhoeddwyd
WalkaboutFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Cyran Stewart yn gweithio yn Walkabout yn Abertawe

Clywodd cwest bod gweithiwr wedi marw ar ôl cael ei wasgu gan stolion trwm mewn lifft yn un o fariau Abertawe.

Roedd Cyran Stewart, 20 o Sir Amwythig, yn gweithio ym mar Walkabout yn ystod oriau mân 24 Chwefror 2014.

Bu farw yn Ysbyty Treforys ar 28 Chwefror wedi iddo gael ei anafu.

Dywedodd crwner wrth reithgor y cwest y bydd yn rhaid edrych ar gyflwr y lifft a'r ffordd roedd yn gweithio.

Ychwanegodd y bydd yn rhaid ystyried pa mor hir oedd Mr Stewart yn sownd yn y lifft a'r amser a gymrodd iddo gael ei ryddhau.

'Stolion 20kg'

Clywodd y cwest bod Mr Stewart ac aelodau eraill o staff rhoi trefn i'r bar yn dilyn noson fyfyrwyr o'r enw Carnage.

Roedd dodrefn y bar wedi cael eu symud i'r seler cyn y noson, ac roedd y gweithwyr yn eu symud yn ôl i fyny i'r llawr gwaelod yn y lifft yng nghefn yr adeilad pan gafodd Mr Stewart ei anafu.

Dangoswyd un o'r stolion i'r rheithgor ac fe glywon nhw eu bod yn pwyso tua 20kg yr un.

Clywodd y rheithgor bod y dyn ifanc yn sownd am 31 munud a 46 eiliad, a bod y gwasanaeth tân wedi cymryd 18 munud a 58 eiliad i'w ryddhau.

Rhyddhau eraill o'r lifft

Dywedodd Huw Griffiths, o dîm ymchwiliadau Heddlu De Cymru, bod aelodau o staff wedi gorfod cael eu rhyddhau o'r lifft ar nifer o achlysuron cyn marwolaeth Mr Stewart.

Mewn tystiolaeth ysgrifenedig, dywedodd mam Mr Stewart, Liz, bod ei mab arall, Gavin - dirprwy reolwr y bar - wedi dweud wrthi bod angen dau berson i symud dodrefn yn y bar.

"Roedd un ar y gwaelod i fod i lwytho'r dodrefn yn y seler, ac un arall i fod i'w ddadlwytho fyny'r grisiau," meddai.

Mae disgwyl i'r cwest bara pythefnos.