'Pawb yn elwa' o gynllun sgiliau gwaith i bobl ag anableddau
- Cyhoeddwyd

Mae'r bobl ifanc sydd wedi eu dewis yn gwneud blwyddyn o brofiad mewn adrannau gwahanol ym Mrifysgol Caerdydd
Mae pobl ifanc sydd ag anableddau yn cael cyfle i ddysgu sgiliau i'w helpu yn y byd gwaith fel rhan o gynllun rhyngwladol.
Dyma'r ail waith i Brifysgol Caerdydd roi cyfle i 11 o fyfyrwyr, a nhw oedd y brifysgol gyntaf yng Nghymru i fod yn rhan o brosiect SEARCH.
Bwriad SEARCH, a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau, yw gwella cyfleoedd i bobl sydd ag anableddau i gael gwaith ac addysg.
Y llynedd cafodd nifer wnaeth gymryd rhan waith ar ôl y cynllun, gyda rhai wedi eu cyflogi gan y brifysgol.
"Partneriaeth sydd yn dod ag addysg, hyfforddiant a sgiliau gyda'i gilydd mewn amgylchedd gwaith go iawn," yw'r cynllun meddai Megan Evans, Swyddog Cyfathrebu Prosiect Ymgysylltu Er Mwyn Newid ehangach, sy'n ariannu SEARCH yng Nghymru.

Eleni mae Jade Smith o Gaerdydd yn rhan o'r cynllun ac mae'n dilyn ôl traed ei chwaer
Mae'r myfyrwyr, sydd ag anableddau dysgu neu ar y sbectrwm awtistiaeth, yn cael cyfle i weithio mewn adrannau gwahanol ar draws y brifysgol am gyfnod o 10 wythnos yr un, am gyfanswm o flwyddyn.
Mae hyfforddwyr yn eu cefnogi i ddysgu sgiliau newydd, a thiwtor o Goleg Caerdydd a'r Fro yn rhoi cymorth addysgiadol.
'Mwynhau'r profiad'
"Bob bore a bob prynhawn maen nhw'n cael bach o amser yn y dosbarth ac maen nhw'n neud pethau fel dysgu sut i greu CV, dysgu ble i edrych ar swyddi a sut i ymgeisio," meddai Ms Evans.
Un sydd yng nghanol y profiad ar hyn o bryd yw Jade Smith, sy'n 20 oed ac o Gaerdydd.
Mae hi'n gweithio fel cynorthwy-ydd domestig yn neuadd y brifysgol, ar ol gwneud cais i fod yn rhan o'r prosiect oherwydd y budd y cafodd ei chwaer ohono.
"Rwy'n ei fwynhau! Rwy'n dysgu sgiliau newydd, yn gweld cwsmeriaid ac mae'r rhan fwyaf ohonynt yn hynod gyfeillgar.
"Roedd fy chwaer Grace ar brosiect SEARCH y llynedd, cefais wybod ganddi amdano. Dywedodd eich bod yn cael rhoi cynnig ar bethau newydd a gwneud swyddi gwahanol."

Yn ogystal â'r myfyrwyr eu hunain, mae staff y brifysgol yn gweld budd y prosiect medd Trystan Gwynedd
Mae Trystan Gwynedd, rheolwr gweinyddiaeth adnoddau dynol yn y brifysgol wedi croesawu sawl un sydd wedi bod ar y cynllun i'w dîm.
"O'dd hi'n amlwg o weld yr unigolyn blwyddyn diwethaf ar ddiwedd y cwrs, i gymharu gyda sut oedd hi ar y dechrau, bod hi wedi ennill nifer o sgiliau gwahanol, nid jyst sgiliau busnes ond hefyd sgiliau cyfathrebu."
Y ddwy ochr yn elwa
Ychwanegodd: "Dwi'n credu fel tîm wnaethon ni ddysgu bod yn lot fwy hyblyg o ran ein ffordd o weithio.
"Fe gaethon ni i gyd hyfforddiant o ran cynyddu ein hymwybyddiaeth ni o anabledd a sut i ddelio 'efo hynny yn y gweithle.
"Felly ddaethon ni i gyd o'r broses dwi'n credu wedi ennill lot fawr."
Cytuno bod y ddwy ochr ar eu hennill mae Megan Evans, gan ddweud bod y cynllun yn chwalu unrhyw stereoteip am bobl ag anableddau.
"Mae'n dangos i ni fod gwaith cyflogedig yn nod realistig ar gyfer pobl gydag anableddau dysgu neu awtistiaeth... ac yn dangos gyda'r cymorth cywir maen nhw yn gallu llwyddo."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd30 Mehefin 2017