Llwybr arfordirol yn sir Benfro'n agor wedi 60 mlynedd

  • Cyhoeddwyd
Parc Arfordir Sir BenfroFfynhonnell y llun, Parc Arfordir Sir Benfro

Mae un o lwybrau arfordirol yn Sir Benfro wedi'i ailagor, ar ôl bod ar gau i'r cyhoedd am 60 mlynedd.

Cafodd llwybr, sy'n rhedeg o Herbrandston ar hyd ffin Clwb Golff Aberdaugleddau, ei gau yn 1957 gan ddeddfwriaeth seneddol.

Roedd yn rhaid ei gau er mwyn caniatáu adeiladu hen burfa olew Esso ar y safle.

Fodd bynnag, mae'r hen burfa wedi ei addasu yn lle sydd yn cynhyrchu nwy naturiol hylifedig, ac mae ei berchennog wedi cytuno gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro i ailagor y llwybr.

Mae'r cwmni, South Hook LNG, bellach wedi trosglwyddo'r tir i gerddwyr fel rhan o Lwybr Arfordir Cymru, sy'n mesur 870 milltir (1,400km) o hyd.