Cwyn i Cadw am Siôn Corn di-Gymraeg yng Nghastell Coch
- Cyhoeddwyd
Fe wnaeth Siôn Corn godi gwrychyn mewn un atyniad yng Nghymru dros wyliau'r Nadolig, wedi iddi ddod i'r amlwg nad oedd yn siarad Cymraeg.
Cafodd cwyn ei wneud gan aelod o'r cyhoedd am y person gafodd eu dewis gan gorff treftadaeth Cadw ar gyfer Castell Coch ger Caerdydd.
Cadarnhaodd Cadw nad oedd y Siôn Corn hwnnw'n siarad Cymraeg, ond fod rhai o'i gorachod yn medru'r iaith.
Mae'r corff wedi dweud eu bod yn ystyried "sut mae modd gwella'r profiad dwyieithog y Nadolig nesaf".
Mae Cadw yn rheoli nifer o safleoedd a henebion hanesyddol Cymru, ac yn gorff hyd braich oddi wrth Lywodraeth Cymru.
Fe gadarnhaodd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fod cwyn wedi'i wneud am ddiffyg Cymraeg yn ystod digwyddiad Nadoligaidd ar un o safleoedd Cadw, ond fe ddywedon nhw nad oedd penderfyniad wedi'i wneud eto a fyddai ymchwiliad ai peidio.