Y Parchedig J Aelwyn Roberts wedi marw

  • Cyhoeddwyd
J Aelwyn Roberts

Bu farw'r Parchedig J Aelwyn Roberts, cyn ficer Llandegai ger Bangor, yn 99 oed.

Yn wreiddiol o Flaenau Ffestiniog, fe ysgrifennodd nifer o lyfrau am ysbrydion, gan gynnwys Yr Anhygoel, a'r llyfr Saesneg Holy Ghostbuster, oedd yn adrodd ei hanes fel arbenigwr eglwysig yn delio â'r goruwchnaturiol.

Fe arweiniodd rhai o'r llyfrau hynny at raglenni dogfen ar S4C a BBC Cymru.

Ffynhonnell y llun, Gwasg Gwynedd

Wrth roi teyrnged iddo, dywedodd Deon Cadeirlan Bangor, y Tra Pharchedig Kathy Jones: "Roedd yn unigryw. Roedd pob haen o'r gymuned Gymreig yn ei garu - er nad oedd rhai ohonyn nhw'n gwybod ei fod yn offeiriad.

"Hyd at ei oriau olaf, roedd yn llawn cariad, gwbodaeth a hiwmor diderfyn."

Wil Cwac Cwac

Yn ogystal â'i rôl eglwysig, fe gafodd y Parchedig Roberts yrfa fel darlledwr.

Yn y 1940au, roedd yn un o leisiau cyfres radio wreiddiol Wil Cwac Cwac.

Dywedodd ei fab, Mark Roberts, wrth BBC Cymru Fyw fod Esgob Bangor ar y pryd wedi methu talu cyflog llawn iddo fel canon, a'i fod felly wedi mynd i chwilio am waith arall rhan amser.

"Fe wnaeth e beth gwaith i Sam Jones yn y BBC ym Mangor," meddai, "a dyna sut ddaeth e'n un o leisiau Wil Cwac Cwac.

"Roedd fy nhad yn sôn y byddai'n rhaid dod ag ymarferion y rhaglen i ben weithiau, er mwyn iddo gael mynd yn ôl i'r Gadeirlan i gynnal yr hwyrol weddi, ac y byddai wedyn yn rhuthro'n ôl i stiwidios y BBC yn ei gasog i chwarae rhan y twrci!"

Mae'n gadael chwech o blant, 23 o wyrion, a phedwar gor-ŵyr.