Eos a'r BBC cytuno ar hawlfreintiau darlledu cerddoriaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r BBC ac Eos - y corff sy'n cynrychioli cerddorion a chyfansoddwyr Cymraeg - wedi dod i gytundeb ar gyfer hawlfreintiau darlledu cerddoriaeth.
Yn ôl datganiad gan Eos mae'r cytundeb yn dilyn trafodaethau llwyddiannus, ac yn golygu "sefydlogrwydd a sicrwydd i'r ddau gorff am gyfnod o bum mlynedd".
Mae'r cytundeb, sy'n cynnwys trwyddedu holl wasanaethau darlledu'r BBC ar draws y DU, yn cynnwys y gwasanaeth newydd Radio Cymru 2 pan fydd yn cychwyn darlledu ar 29 Ionawr 2018, medd Eos.
Dywed Betsan Powys, Golygydd BBC Radio Cymru: "Mae cadarnhau'r cytundeb allweddol hwn gydag Eos am y pum mlynedd nesaf yn newyddion da dros ben.
"Mae'n gwrandawyr yn mwynhau'r arlwy eang o gerddoriaeth Gymraeg ar BBC Radio Cymru ac wrth gwrs, o ddiwedd mis Ionawr ymlaen fe fydd cerddoriaeth yn rhan greiddiol o ddarpariaeth Radio Cymru 2."
Dywedodd Dafydd Roberts, ar ran Eos: "Mae hyn yn ddigwyddiad hanesyddol, ac yn cadarnhau'r berthynas glos a'r cydweithio sydd wedi bod yn ddiweddar rhwng y diwydiant cerdd yng Nghymru a'r darlledwr."
Y cytundeb yw'r diweddara' rhwng Eos a'r BBC yn dilyn cyfnod mwy tymhestlog.
Yn 2013, yn dilyn anghydfod rhwng y ddau gorff fe wnaeth aelodau Eos wrthod yr hawl i'r BBC ddarlledu eu cerddoriaeth.
Fe wnaeth tribiwnlys ddyfarnu ym Medi 2013 y dylai'r BBC dalu breindal o £100,000 bob blwyddyn am yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg.
Roedd Eos wedi gofyn yn wreiddiol am £1.5m.
Yna yn Ionawr 2015 fe ddaeth y ddwy ochr i gytundeb ynglŷn â thaliadau i artistiaid.