Eos a'r BBC wedi arwyddo cytundeb
- Cyhoeddwyd
Mae Eos - y corff sy'n cynrychioli cerddorion Cymraeg - a'r BBC wedi arwyddo cytundeb ynglŷn â thaliadau i artistiaid.
Daw hyn dros flwyddyn ers i driwbiwnlys hawlfraint ddyfarnu y dylai'r BBC dalu breindal o £100,000 bob blwyddyn am yr hawl i ddarlledu miloedd o ganeuon Cymraeg.
Roedd Eos wedi gofyn yn wreiddiol am £1.5m.
Dywedodd llefarydd ar ran y BBC:
"Rydym yn croesawu'r ffaith ein bod wedi dod i gytundeb gyda Eos ac rydym yn edrych ymlaen i gyd-weithio hefo nhw yn y dyfodol."
Mae'r datblygiad yn un arwyddocaol iawn yn ôl Dafydd Roberts llefarydd Eos:
"Mae hwn yn achos i ddathlu. O'r diwedd mae 'na gytundeb yn bodoli rhwng y BBC a chorff casglu annibynnol a dydi hynny ddim wedi digwydd ers monopoli'r PRS (Performing Rights Society) yn 1923, felly mae'r monopoli yna drosodd."
Yn dilyn y tribiwnlys ym mis Medi 2013, bu dau gyfarfod o aelodau Eos fis Ionawr y llynedd.
Bryd hynny, fe bleidleisiodd y corff dros barhau i drafod cytundeb darlledu newydd gyda'r BBC.
Eos sy'n berchen ar hawliau darlledu ar gyfer miloedd o ganeuon Cymraeg, wedi i lawer o gantorion Cymraeg benderfynu ymuno â'r asiantaeth wedi i PRS ostwng y gyfradd tâl roeddent yn ei dderbyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd16 Rhagfyr 2013
- Cyhoeddwyd23 Medi 2013
- Cyhoeddwyd13 Chwefror 2013