Mwy o hunan niweidio a thrais yng ngharchar Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
carchar CaerdyddFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Rhwng 2015 a 2016 roedd cynnydd o 50% mewn achosion o drais yng ngharchar Caerdydd

Mae cynnydd wedi bod mewn achosion o hunan niweidio a chynnydd hefyd mewn trais yn erbyn staff a charcharorion yng ngharchar Caerdydd, medd adroddiad diweddar.

Yn ôl dogfen Y Bwrdd Monitro Annibynnol, ers i'r carchar ddod yn le di-fwg mae achosion wedi bod o bobl yn ysmygu patsys nicotin, dail tê a'r cyffur 'spice'.

Mae ystadegau wedi dangos cynnydd o 50% mewn achosion o drais rhwng 2015 a 2016 ac mae ymosodiadau yn erbyn staff wedi cynyddu 160%.

Yn yr un cyfnod, roedd yna gynnydd o 15% yn nifer yr ymosodiadau yn erbyn carcharorion.

"Dyw ffigyrau ar gyfer 2017 ddim wedi eu casglu eto ond mae'n annhebygol y bydd yna ostyngiad yn y ffigyrau," medd yr adroddiad.

Mwy o achosion disgyblu

Yn ogystal â'r cynnydd cyffredinol mewn ymddygiad treisgar, mae'r adroddiad yn amlygu tuedd gynyddol i garcharorion niweidio'u hunain.

Roedd y gwaith gafodd ei wneud gan swyddogion arbenigol yn bwysig er mwyn rheoli'r cynnydd hyn medd y ddogfen.

"Ond rhwng Chwefror a Mehefin 2017 cafodd lleiafswm o 123 o oriau eu colli i ddyletswyddau eraill oherwydd materion staffio. Roedd hyn yn destun pryder i'r bwrdd," dywed yr adroddiad.

Llety 'annerbyniol'

Mae'r corff hefyd yn dweud bod cynnydd "sylweddol" wedi bod yn nifer yr achosion disgyblu am nad oedd carcharorion wedi dilyn rheolau'r carchar.

Cafodd 2,413 o droseddau eu delio â nhw gan y Llywodraethwr a 375 o'r achosion wedi eu cyfeirio at swyddog dyfarnu annibynnol.

Dyw agweddau o lety'r carchar "ddim yn cwrdd â'r safonau derbyniol" chwaith. Ymhlith y problemau medd yr adroddiad y mae cawodydd annigonol a diffyg sgrîn o gwmpas toiledau mewn celloedd.

Carcharorion ar ddedfrydau tymor byr, rhai ar fechnïaeth ac unigolion yn disgwyl i gael eu dedfrydu yw mwyafrif y carcharorion yng ngharchar Caerdydd.

Mae lle ar gyfer hyd at 820 o garcharorion ac mae nifer yn rhannu cell gydag un person arall.

Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod carchar Caerdydd eisoes wedi cymryd camau i wella diogelwch ac i daclo'r cyflenwad o gyffuriau.

"Ers yr adroddiad, mae'r carchar wedi cyflwyno camerâu sy'n cael ei gwisgo ar gyrff swyddogion ac mae mwy o gefnogaeth i garcharorion, er mwyn dod i wraidd ymddygiad treisgar. Mae newidiadau eraill i drefn y carchar wedi cael effaith bositif ar garcharorion.

"Ond rydym yn gwybod fod angen gwneud mwy, felly rydym wedi gwella'r gofal ar gyfer carcharorion gyda phroblemau sylweddau. Rydym hefyd wedi recriwtio swyddogion gyda chŵn i geisio lleihau'r nifer o nwyddau anghyfreithlon ddod fewn i'r carchar," meddai.