Tywysog Harry a Meghan Markle yn ymweld â Chaerdydd

  • Cyhoeddwyd
Meghan a Harry

Mae'r Tywysog Harry a'i ddyweddi Meghan Markle wedi ymweld â Chymru gyda'i gilydd am y tro cyntaf ddydd Iau.

Roedd cyfle i'r cwpl gyfarfod y cyhoedd yng Nghastell Caerdydd, cyn mynd ymlaen i ymweld â rhai o sefydliadau'r brif ddinas.

Yn rhan o'r ymweliad, cafodd y ddau weld perfformiadau gan gantorion a beirdd, a chlywed am ymdrechion i hybu'r iaith Gymraeg a diwylliant Cymru.

Ar ôl crwydro'r castell bydd y ddau yn mynd i ganolfan gymunedol Star Hub yn Nhremorfa i weld sut mae chwaraeon yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith yna.

Disgrifiad o’r llun,

Daeth rhai cannoedd i'r castell i weld y cwpl ddydd Iau

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Y Tywysog Harry a Meghan Markle yn cyfarfod y cyhoedd ger Castell Caerdydd

Cyn yr ymweliad dywedodd arweinydd Cyngor Caerdydd, Huw Thomas bod yr awdurdod yn barod i "estyn croeso cynnes" i'r cwpl.

"Bydd eu hymweliad yn arddangos peth o'r diwylliant a threftadaeth rydyn ni mor falch ohono yma yng Nghaerdydd."

'Croeso hanesyddol'

Un arall oedd yn croesawu'r pâr yw'r Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, a ddywedodd ei fod yn "falch iawn" bod y cwpl yn ymweld â Chymru.

"Mae'r croeso sydd i'w gael yng Nghymru yn hanesyddol... dwi'n gobeithio y bydd yr ymweliad hwn yn rhoi blas ar yr amrywiaeth a safon yr hyn sy'n cael ei gynnig yma.

"Mae ein croeso brenhinol yng Nghymru yn mynd y tu hwnt i'r ymweliad hwn a byddem yn falch iawn o dynnu eu sylw at rannau gwych eraill o Gymru yn y dyfodol."