Plaid a'r Ceidwadwyr yn ffraeo dros bwyllgorau Cynulliad
- Cyhoeddwyd
Mae gwaharddiad parhaol Neil McEvoy o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad wedi ailagor ffrae ynglŷn â pha bleidiau sydd yn cael cadeirio pwyllgorau.
Ar hyn o bryd mae gan Blaid Cymru dri chadeirydd pwyllgor - un yn fwy na'r Ceidwadwyr - er bod ganddyn nhw lai o ACau.
Yn ôl yr AC Ceidwadol Paul Davies mae hynny'n annerbyniol, a dylai'r cam diweddaraf yn erbyn Mr McEvoy olygu bod angen newid.
Ond mynnodd Plaid y dylai dosraniad cadeiryddiaethau'r Cynulliad adlewyrchu canlyniad yr etholiad.
'Cynsail peryglus'
Ddydd Mawrth fe wnaeth grŵp Plaid Cymru roi gwybod i Mr McEvoy ei fod wedi ei wahardd yn barhaol.
Yn siarad wedi hynny, dywedodd Mr Davies: "Dylai gwaharddiad parhaol Neil McEvoy o grŵp Plaid Cymru olygu bod y mater yn cael ei setlo unwaith ac am byth.
"Mae cael plaid lai yn dal mwy o gadeiryddiaethau pwyllgor yn gosod cynsail peryglus i ddyfodol y sefydliad yma, a'n gobaith ni yw y bydd Plaid Cymru nawr yn adlewyrchu ar hyn."
Pleidlais ymysg ACau sydd yn penderfynu pwy sydd yn cadeirio pwyllgorau, ond mae'r nifer y mae pleidiau yn ei gael i fod i adlewyrchu cydbwysedd eu grwpiau yn y Siambr.
Ar ôl yr etholiad Cynulliad diwethaf cafodd Llafur chwe chadeiryddiaeth, gyda Phlaid Cymru'n cael tri, y Ceidwadwyr yn cael dau, ac UKIP yn cael un.
Ond ers hynny mae maint grŵp Plaid Cymru wedi gostwng o 12 i 10, tra bod y Ceidwadwyr wedi cynyddu o 10 i 11 gydag ychwanegiad Mark Reckless sy'n golygu mai nhw yw'r ail blaid fwyaf y tu ôl i Lafur.
Er i'r Llywydd Elin Jones ddweud wrth ACau llynedd nad oedd y dosbarthiad presennol yn cyd-fynd â rheolau'r Cynulliad, dyw'r pleidiau ddim wedi dod i gytundeb eto.
Mewn adroddiad y llynedd, tra bod Mr McEvoy wedi'i wahardd dros dro, awgrymodd prif chwip y blaid Lafur Jane Hutt fod ansicrwydd ynglŷn â'r cydbwysedd gan fod posibilrwydd y gallai Mr McEvoy ddychwelyd i grŵp Plaid Cymru.
Dywedodd llefarydd ar ran grŵp Plaid Cymru: "Mae'n ymddangos fod y Ceidwadwyr yn benderfynol o danseilio'r rhesymeg dros gael cadeiryddion wedi eu hethol yn uniongyrchol ac yn agored gan y Cynulliad cyfan.
"Cafodd ei gyflwyno am y tro cyntaf yn y Cynulliad, gyda'r bwriad o roi sefydlogrwydd i waith pwysig pwyllgorau a sicrhau nad yw cadeiryddion yn gallu cael eu tanseilio gan weithredoedd eraill, boed hynny'n arweinwyr pleidiau yn dangos ffafriaeth neu ACau yn gadael ac yn ymuno â grwpiau newydd."