£6.5m tuag at gynllun gwresogi dŵr o hen bwll glo
- Cyhoeddwyd
Mae grant o £6.5m wedi cael ei roi i gynllun i bwmpio dŵr o hen bwll glo sydd wedi'i gynhesu'n naturiol a'i ddefnyddio i wresogi 150 o gartrefi.
Fe ddywed Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr mai dyma'r cynllun cyntaf o'i fath yn y DU, ac fe fydd yn defnyddio dŵr o hen bwll glo Caerau.
Mae'r arian ar gyfer datblygu a gweithredu technoleg i bwmpio'r dŵr o ddyfnder o 750 troedfedd ac sydd wedi cael ei gynhesu gan y ddaear i tua 20.6C.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Young, aelod o gabinet y Cyngor: "Mae'n gynllun mawr ei fri ac rwy'n falch ei fod yn digwydd ym Mhen-y-bont."
Mae British Geological Survey ar hyn o bryd yn cynnal profion i ganfod faint o ddŵr sydd yno ynghyd â'i dymheredd a'r cynhwysion cemegol.
Y gobaith yw y bydd y cynllun yn gallu gwresogi 1,000 o gartrefi yn y pen draw gan dorri biliau tanwydd yn un o wardiau tlotaf Cymru.
Mae disgwyl i'r gwaith o adeiladu'r cynllun ddechrau yn 2020 gyda'r 150 o gartrefi cyntaf yn cael eu gwresogi erbyn gaeaf 2021.
Sut mae'r cynllun yn gweithio?
Mae dŵr cynnes yn cael ei bwmpio o'r hen bwll glo;
Mae'r dŵr yn cael ei basio drwy sustem cyfnewid gwres - teclyn tua'r un maint ag oergell sy'n cael ei osod yng nghartrefi pobl;
Mae'r dŵr yn cynhesu plât metel sydd yn ei dro yn cynhesu'r dŵr i'w ddefnyddio yn sustem gwres canolog yr eiddo;
Nid yw dŵr y pwll glo yn mynd i sustemau gwres canolog pobl, ac mae'n cael ei bwmpio yn ôl dan ddaear er mwyn ei gynhesu eto.
Yr amcangyfrif am gost y cynllun cyfan yw £9.4m - mae Swyddfa Gyllido Ewropeaidd Cymru wedi rhoi grant o £6.5m i'r cyngor ac mae cyllid ychwanegol o £2.2m wedi ei gael gan Lywodraethau Cymru a'r DU, a'r sefydliad nid-am-elw Energy Systems Catapult. Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr yn ceisio codi'r £700,000 sy'n weddill.
Ychwanegodd Mr Young: "Ry'n ni'n gwybod fod y dechnoleg yn bodoli, yn gwybod ei fod wedi ei brofi a bod y sustem yn gweithio... dyna pam dwi mor gyffrous o'i gael ym Mhen-y-bont."
Dywedodd y cyngor fod cynlluniau dŵr o byllau glo yn cael eu defnyddio ar draws y DU, ond nid ar raddfa mor fawr.