Carchar am 20 mlynedd i droseddwr rhyw o Wynedd
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o Wynedd wedi ei garcharu am 20 mlynedd am droseddau rhyw hanesyddol.
Fe ymddangosodd Jason Bennett Thomas o Gaerhun, Bangor o flaen Llys y Goron Caernarfon ddydd Gwener.
Roedd Thomas yn wynebu cyhuddiadau o droseddau rhyw yn erbyn plentyn a chyhuddiadau o geisio ymyrryd â thystion.
Cafodd ei garcharu am 20 mlynedd, a'i roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am oes.
Dywedodd y Ditectif Andy Fearon o Uned Amethyst Heddlu Gogledd Cymru: "Mae'r math yma o droseddu yn achosi niwed mawr. Nid yn unig i'r plant sy'n cael eu cam-drin ond i'w teuluoedd ehangach.
"Mae Thomas yn droseddwr rhyw rheibus, sydd wedi ecsbloetio'r rhai mwyaf bregus yn ein cymuned, ac wedi cipio eu plentyndod.
"Rwyf yn gobeithio fod y dyfarniad heddiw yn gwneud rhywfaint o gyfiawnder i'w ddioddefwyr ac yn gyfle iddynt geisio symud ymlaen."