Llys yn clywed i gar 'siglo' cyn gwrthdrawiad angheuol

Llun o Abubakr Ben Yusaf ac Umar Ben Yusaf
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abubakr Ben Yusaf (chwith) a'i frawd Umar Ben Yusaf yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn

  • Cyhoeddwyd

Mae un o ddau frawd sydd wedi'u cyhuddo o achosi marwolaeth tad i ddau drwy yrru'n beryglus, wedi dweud wrth lys bod ei gar wedi dechrau "siglo" ac wedi mynd allan o reolaeth cyn y gwrthdrawiad.

Cafodd Rhys Jenkins o Ddeuddwr ym Mhowys ei ladd ar yr A483 ger y Trallwng ar 16 Tachwedd y llynedd.

Fe gafodd ei fab, Ioan, ei anafu'n ddifrifol hefyd pan darodd BMW X3, a oedd yn cael ei yrru gan Abubakr Ben Yusaf, yn syth i flaen y car.

Mae Mr Ben Yusaf, 30, a'i frawd Umar Ben Yusaf, 34, yn gwadu achosi marwolaeth drwy yrru'n beryglus ac yn gwadu achosi anaf difrifol drwy yrru'n beryglus.

Rhys JenkinsFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw Rhys Jenkins yn dilyn gwrthdrawiad ger Y Trallwng fis Tachwedd

Mae Abubakr Ben Yusaf a'i frawd yn gweithio fel optometryddion locwm ac wrth roi tystiolaeth yn ei amddiffyniad yn Llys y Goron yr Wyddgrug dywedodd Mr Ben Yusaf eu bod yn gyrru adref i Fanceinion o Aberystwyth mewn ceir ar wahân.

Ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol bod ei frawd wedi bod yn gyrru y tu ôl iddo.

Dywedodd wrth y llys ei fod wedi goddiweddyd ceir eraill ar y daith, ond bob amser "mewn modd diogel" a'i fod wedi bod yn gyrru o fewn y terfyn cyflymder.

Dywedodd fod y car wedi dechrau "lithro" eiliadau cyn y ddamwain pan oedd yn gyrru heb unrhyw geir o'i flaen nac y tu ôl iddo ac nad oedd yn gallu adennill rheolaeth ar y car.

"Dydw i ddim yn gwybod pam ddigwyddodd hynny," meddai, "a'r canlyniad oedd y drasiedi sydd wedi digwydd".

"Fe lithrodd [y car] draw i ochr arall y ffordd, a digwyddodd y peth gwaethaf posibl" ychwanegodd.

Dywedodd ei fod "mewn cyflwr o sioc a phanig" ar ôl y ddamwain.

Esboniodd ei fod wedi gorfod dod allan o ochr y teithiwr gan nad oedd yn gallu agor drws y gyrrwr. Cerddodd i ffwrdd rhag ofn i'r car fynd ar dân.

"Mae fy nghof yn eithaf aneglur," meddai, ond dywedodd ei fod wedi gweld car ei frawd a mynd i mewn, cyn colli ymwybyddiaeth.

"Roeddwn i'n meddwl fy mod i ar fin marw," meddai.

Wrth gael ei groesholi gofynnodd bargyfreithiwr yr erlyniad John Philpotts i Mr Ben Yusaf pa un ohonyn nhw awgrymodd gadael y lleoliad ar ôl y ddamwain?

Atebodd ei fod ef, Abubakr, am "fynd i'r ysbyty".

Gofynnwyd iddo pam nad oedd wedi aros am ambiwlans ac fe ddywedodd ei fod "yn ofni am ei fywyd" a "doeddwn i ddim yn meddwl yn glir".

Cwestiynodd y bargyfreithiwr hefyd a oedd yn iawn nad oedd yn gwybod bod ei frawd yn gyrru y tu ôl iddo?

"Ni fyddai unrhyw ffordd i mi wybod," meddai, "roeddwn i'n canolbwyntio ar y ffordd."

Dywedodd Mr Ben Yusaf hefyd wrth y llys y byddai'n "anghytuno" â thystion a oedd wedi rhoi tystiolaeth yn dweud ei fod yn gyrru'n rhy gyflym ac yn beryglus.

Ychwanegodd fod "wir ddrwg ganddo" a'i fod yn "edifar" am yr hyn a ddigwyddodd.

"Allai ddim dychmygu beth mae'r teulu'n mynd trwyddo" meddai.

Umar Ben Yusaf
Disgrifiad o’r llun,

Un o'r diffynyddion - Umar Ben Yusaf - yn gadael y llys ddydd Gwener

Yn gynharach yn yr achos fe nododd y barnwr y dylai'r rheithgor gael Umar Ben Yusaf yn ddieuog o un o'r cyhuddiadau mae'n ei wynebu.

Dywedodd y Barnwr Simon Mills nad oedd yna ddigon o dystiolaeth yn gysylltiedig â'r cyhuddiad yn erbyn Umar Ben Yusaf o achosi marwolaeth tra'n gyrru heb yswiriant.

Mae Abubakr Ben Yusaf yn dal i wynebu'r un cyhuddiad.

Mae'r achos yn parhau.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.