Cartŵn Disney, tocynnau a chleddyf yn roddion i gynghorwyr

  • Cyhoeddwyd
Silverstone
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth prif weithredwr Conwy dderbyn tocynnau i Silverstone ar dri achlysur

Mae cleddyf o Nepal, llun cartŵn Disney gwreiddiol a thocynnau ar gyfer rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr ymhlith yr anrhegion gafodd eu derbyn gan gynghorwyr Cymru.

Fe wnaeth Prif Weithredwr Cyngor Conwy dderbyn tocynnau i'r Grand Prix yn Silverstone ar dri achlysur - tocynnau fyddai werth tua £1,400.

Mae'n rhaid i gynghorwyr lleol roi gwybod am unrhyw anrhegion neu letygarwch maen nhw'n ei dderbyn.

Dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru fod gan bob cyngor eu polisi eu hunain yn y maes.

Ond mae'n rhaid i bob cyngor gadw cofnod o'r hyn sy'n cael ei roi i gynghorwyr a phrif weithredwyr dros gyfnod o bedair blynedd - fel rhan o bolisi agored ac o fod yn dryloyw.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Roedd anrhegion yn cynnwys cyfle i weld Cymru yn gemau rhagbrofol Euro 2016

Yr anrhegion mwyaf cyffredin oedd tocynnau ar gyfer achlysuron chwaraeon gan gynnwys Cwpan Rygbi'r Byd, Pencampwriaeth y Chwe Gwlad, rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a gemau Euro 2016.

Yn ystod ei gyfnod fel arweinydd Cyngor Caerdydd rhwng 2014-17, fe wnaeth Phil Bale dderbyn cartŵn Disney gwreiddiol gan Robert Iger, prif weithredwr cwmni Walt Disney Studios.

Fe wnaeth hefyd dderbyn oriawr solar gan ddirprwy faer Stuttgart, dolennau llawes arian gan arlywydd Iwerddon a fodca gan lysgenhadaeth Wcráin.

Fe wnaeth maer y ddinas dderbyn cleddyf gan Lysgennad Nepal.

Ar Ynys Môn roedd yna wahoddiadau i gyngerdd Tom Jones gan y darlledwr Sky.

O'r 11 o anrhegion gafodd eu cofnodi ar gyfer Ynys Môn, daeth pedwar o gwmni Horizon Nuclear Power.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd un cynghorydd gartŵn Disney gwreiddiol

Yr anrhegion mwyaf drud oedd y rhai i brif weithredwr Conwy, sef tocynnau lletygarwch i Silverstone ar dri achlysur, gydag amcangyfrif eu bod werth tua £1,400.

Fe wnaeth o hefyd dderbyn tocynnau i wylio gêm yng Nghyfres y Lludw oddi wrth Glwb Criced Morgannwg, gwerth tua £150.

Yn Sir Benfro fe wnaeth y cynghorydd Keith Lewis dderbyn siec o £100 gan S4C am gynrychioli'r cyngor wrth hybu Wythnos Bysgod Sir Benfro - dywedodd y cynghorydd y byddai'n rhoi'r arian i ysgol leol.

Yn Wrecsam fe wnaeth un cynghorydd dderbyn llyfr o gomedïau Shakespeare gan brifysgol y dref, tra yn Sir Fynwy fe wnaeth cynghorydd dderbyn potel o win di-alcohol.