Y Gweilch yn diswyddo Steve Tandy fel prif hyfforddwr
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gweilch wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi diswyddo'r prif hyfforddwr Steve Tandy, yn dilyn canlyniadau siomedig y tymor hwn.
Fe aeth y Gweilch allan o Gwpan Pencampwyr Ewrop dros y penwythnos ar ôl colli 24-7 yn erbyn Clermont Auvergne.
Maen nhw hefyd yn chweched allan o saith yn nhabl Adran A y Pro 14, gan ennill dim ond pedair o'u 13 gêm gynghrair y tymor hwn.
Mewn datganiad dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y rhanbarth, Andrew Millward, fod Tandy wedi bod yn "was ffyddlon" i'r Gweilch mewn "amgylchiadau heriol".
"Fodd bynnag, rydyn ni'n ymwybodol nad yw canlyniadau wedi bod yn ddigon da y tymor yma ac yn anffodus, mae angen newid er mwyn i'r sefydliad barhau i symud ymlaen," meddai.
Dywedodd y byddai'r rhanbarth nawr yn canolbwyntio ar ganfod prif hyfforddwr newydd fyddai "ymysg y goreuon yn y byd", yn ogystal â chryfhau'r garfan ar gyfer y tymor nesaf.
Cafodd Tandy, 38, ei benodi'n brif hyfforddwr ar y Gweilch yn 2012, a'r flwyddyn honno fe wnaeth y rhanbarth ennill y Pro12.
Ers hynny mae wedi cael pum tymor llawn yn Stadiwm Liberty, gan orffen yn 5ed, 5ed, 3ydd, 8fed, a 4ydd yn y gynghrair.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Ionawr 2018