Cynllun newydd i helpu plant Cymru ddewis gyrfa

  • Cyhoeddwyd
plymerFfynhonnell y llun, Thinkstock
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl y bydd pob ysgol yng Nghymru yn rhan o'r cynllun erbyn 2019

Mae cynllun newydd wedi cael ei lansio i helpu plant ddewis eu llwybrau gyrfa.

Bwriad y fenter ar-lein yw cysylltu miloedd o gyflogwyr gydag ysgolion Cymru.

Mae Gyrfa Cymru yn anelu'r cynllun - Cyfnewidfa Addysg a Busnes - at ddisgyblion rhwng 14 a 18 oed.

Mae'r corff sy'n cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru yn credu bod creu cysylltiadau cryfach a mwy uniongyrchol rhwng ysgolion a busnesau yn gwneud plant yn llawer llai tebygol o fyw mewn tlodi fel oedolion.

Fe fydd y cynllun ar gael mewn 62 o ysgolion yn Sir Gaerfyrddin, Pen-y-bont ar Ogwr, Torfaen, Casnewydd, Ceredigion, Sir Fynwy, Sir Ddinbych, Wrecsam a Gwynedd i ddechrau.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Bydd y cynllun yn cael ei lansio ddydd Mawrth yn Ysgol Uwchradd yr Esgob Hedley, Merthyr Tudful, mewn partneriaeth â chwmni cynnal awyrennau o'r Rhondda, GE Aviation.

Dywedodd llefarydd ar ran Gyrfa Cymru: "Enghraifft o sut fydd hwn yn gweithio yw, fe allai athro STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg) sy'n ceisio dysgu yn y dosbarth ddod i chwilio'r porth ar gyfer cwmni peirianneg lleol, neu gallai athro astudiaethau cyfryngau ddefnyddio'r adnodd i ddod o hyd i gwmnïau cyfryngau digidol.

"Yn y pen draw, y gobaith yw y bydd hyd at 13,000 o sefydliadau'n cymryd rhan, ac fe fydd y rhanddeiliaid yn amrywio o gwmnïau bach a chanolig i adrannau'r cyngor."

Dywedodd Eluned Morgan, Gweinidog yr Iaith Gymraeg a Dysgu Gydol Oes: "Mae dod â chyflogwyr a phobl ifanc at ei gilydd yn hollbwysig i helpu myfyrwyr i ddeall y sgiliau a'r profiad sydd eu hangen arnynt er mwyn symud ymlaen a llwyddo ym myd gwaith."

Dywedodd adroddiad Estyn a gyhoeddwyd fis Medi diwethaf fod lleoliadau gwaith ysgol wedi gostwng oherwydd bod ysgolion yn teimlo nad oedden nhw'n gallu bodloni gofynion iechyd a diogelwch rhaglenni profiad gwaith, ar ôl i Gyrfa Cymru roi'r gorau i gynnal cronfa ddata o leoliadau posib.