Ethol llywydd ac is-lywydd newydd i undeb amaeth yr NFU
- Cyhoeddwyd
Mae undeb amaethyddol yr NFU Cymru wedi ethol eu llywydd ac is-lywydd newydd.
Llywydd newydd yr undeb ydi John Davies, ffermwr defaid ac eidion o Bowys, a'r is-lywydd yw Aled Jones, ffermwr llaeth o Wynedd.
Mae Mr Davies yn ffermio gyda'i deulu ym Merthyr Cynog ger Aberhonddu, ac yn rhedeg busnesau contractio silwair a lletygarwch.
Mae hefyd yn gynghorydd lleol ac yn arweinydd Clwb Ffermwyr Ifanc Pontfaen. Roedd yn llywydd Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn 2012.
Wrth siarad wedi'r etholiad, dywedodd Mr Davies bod ei flaenoriaethau yn ystod ei dymor fel llywydd yn cynnwys gwarchod buddiannau'r byd amaeth yng Nghymru yn dilyn Brexit, taclo TB, a gwella safon dŵr yng Nghymru.
Fe fydd Mr Jones yn cymryd yr awenau wrth Stephen James, ffermwr o Sir Benfro, sydd wedi bod yn y swydd ers 2014.
Aled Jones yw'r wythfed cenhedlaeth o'i deulu i ffermio gwartheg godro ar eu fferm ger Caernarfon.
Mae hefyd yn gadeirydd Gwasanaethau Gwybodaeth ar gyfer Gwartheg, ac yn aelod o Fwrdd Arweinyddiaeth Llefrith.
Fe fydd Mr Davies a Mr Jones yn eu swyddi am y ddwy flynedd nesaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Ionawr 2014
- Cyhoeddwyd16 Medi 2017
- Cyhoeddwyd20 Hydref 2015