Cynnal gŵyl Penwythnos Mwyaf Radio 1 yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Mae'r BBC wedi cyhoeddi y bydd un o wyliau cerddorol Radio 1, Y Penwythnos Mwyaf, yn cael ei gynnal yn Abertawe eleni.
Daeth cadarnhad y bydd Ed Sheeran a Taylor Swift yn perfformio yn y digwyddiad ym Mharc Singleton.
Bydd y BBC yn cynnal penwythnos o adloniant gyda gwyliau yn Yr Alban, Lloegr, Gogledd Iwerddon a Chymru ar benwythnos 25-28 Mai.
Fe fydd gwyliau tebyg i'r un yn Abertawe yn cael eu cynnal yn Perth, Coventry a Belfast.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan un o gyflwynwyr yr orsaf, Nick Grimshaw, fore Mawrth.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Bydd y digwyddiad yn Abertawe'n cael ei gynnal ar 26 a 27 Mai, gyda 26,000 o docynnau ar gael pob diwrnod.
Dywedodd Radio 1 y bydd rhagor o artistiaid yn cael eu cyhoeddi'n fuan.
Mae gwybodaeth am docynnau i holl ddigwyddiadau'r Penwythnos Mwyaf ar gael yma.