Dros 300 o geiswyr lloches wedi cael tröedigaeth

  • Cyhoeddwyd
Grŵp o Iraniad sy'n Gristion mewn dosbarth gweddïo
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r ceiswyr lloches sydd wedi troi at Gristnogaeth yn dweud na allan nhw fynd adref neu bydd eu bywydau mewn perygl

Mae mwy na 300 o geiswyr lloches wedi eu bedyddio gan eglwys yng Nghaerdydd yn y ddwy flynedd diwethaf, gyda'r mwyafrif sydd wedi cael tröedigaeth yn Iraniaid.

Gall y rhai sy'n penderfynu troi o Islam i Gristnogaeth wynebu'r gosb eithaf yn Iran, ac yn ôl y ceiswyr lloches mae eu penderfyniad i addoli Crist yn golygu na allen nhw ddychwelyd adref.

Yn y ddwy flynedd ddiwethaf mae 324 o geiswyr lloches wedi eu bedyddio yn Eglwys y Bedyddwyr, Tredegarville yng Nghaerdydd.

Mae wedi codi amheuon yn Ewrop bod mewnfudwyr yn troi at grefydd newydd i gryfhau eu hachos i aros yn y DU.

Ond mae gweinidog yng Nghaerdydd yn dweud ei fod yn cymryd ei "gyfrifoldeb i'r llywodraeth ac i'r wlad yma o ddifrif" a bod mewnfudwyr yn rhoi bywyd newydd i eglwysi.

Arestio yn Iran

Mae'r mwyafrif o'r ceiswyr lloches sydd wedi eu bedyddio yn Eglwys Tredegarville yn Iraniaid, ond hefyd mae rhai Cwrdiaid a phobl o Afghanistan wedi eu bedyddio.

Ddwy flynedd yn ôl cafodd tua 60 o bobl, gan gynnwys Daniel, tad 31 oed o Iran, eu bedyddio ym Mae Jackson ger Y Barri.

Disgrifiad o’r llun,

Rydyn ni'n cuddio wyneb Daniel, sy'n dal i aros i gael gwybod a fydd ei gais i aros ym Mhrydain yn llwyddiannus

Mae'r peiriannydd yn geisiwr lloches sy'n byw yng Nghaerdydd, ac er iddo arfer bod yn Fwslim, cafodd ei fedyddio ddwy flynedd yn ôl.

Fe wnaeth Daniel ffoi i Brydain ar ôl i'r awdurdodau yn Iran ddarganfod ei fod yn rhan o fudiad Cristnogol cudd.

Mae'n grediniol y bydd yn cael ei ladd os y bydd yn dychwelyd i Iran: "Os bydden i'n yn mynd 'nôl byddai'r awdurdodau yn fy arestio.

"Fe fydden nhw yn fy rhoi i'n y carchar ac fe fydden i'n yn cael fy lladd. Fe fydden i'n cael fy nghrogi.

"Fe wna' nhw'n lladd i a fy nheulu. Dwi ddim ofn achos fe fyddai'n cwrdd ag Iesu ond mi ydw i'n ofnus am fy nheulu."

Disgrifiad,

Mae'r gweinidog Phylip Rees yn dweud y dylai'r rhai sy'n amau ffydd yr Iraniaid ddod i'r eglwys i'w cyfarfod

Cyfyngiadau addoli

Mae cyfansoddiad Iran yn cydnabod Iddewiaeth, Cristnogaeth a Zoroastriad, ond mae cyfyngiadau ar eu rhyddid i addoli.

Dim ond rhai sydd ddim o gefndir Mwslimaidd sy'yn cael addoli mewn eglwys.

Dywedodd Daniel bod ffrind iddo wnaeth droi at Gristnogaeth wedi cael ei lofruddio, a bod ei weddillion wedi eu gwasgaru y tu allan i ddrysau eglwysi fel rhybudd i eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd tua 60 o bobl eu bedyddio ym Mae Jackson yn Y Barri ddwy flynedd yn ôl

Mae'r gweinidog yn yr eglwys, Phylip Rees, wedi bedyddio nifer o geiswyr lloches yng Nghaerdydd ac yn helpu gyda'u hymdrechion i aros yn y DU.

Mae'n dweud nad oes ganddo amheuaeth bod y mwyafrif yn dweud y gwir am eu ffydd, gan ddweud ei fod yn gorfod barnu os yw pobl yn ddidwyll neu beidio "bob dydd".

Dywedodd: "Rwy'n cymryd fy nghyfrifoldeb i'r llywodraeth ac i'r wlad yma o ddifrif.

"Felly dwi ddim yn cefnogi pobl, er enghraifft mewn gwrandawiad mewnfudo, oni bai fod y dystiolaeth sydd o fy mlaen i yn gwneud i fi feddwl eu bod nhw'n ddidwyll ynglŷn â'u crefydd.

"Dim ond wedyn wnaf i fynd i'r gwrandawiad. Mewn rhai achosion rwy' wedi gwrthod mynd i wrandawiad am fod yna amheuaeth yn fy meddwl."

Yn ôl canllawiau'r Swyddfa Gartref mae'n rhaid dangos bod "tebygolrwydd uchel" bod y person wedi cael tröedigaeth.

Gall hyn gynnwys bedyddio neu parodrwydd i gael ei fedyddio, mynd i addoli a bod yn rhan o gymuned eglwys.

Does dim ffigyrau swyddogol ar gyfer ceiswyr lloches sy'n grefyddol, ond mae nifer y grwpiau o Iraniaid Cristnogol yn tyfu dros y DU.

Bywyd newydd i eglwysi

Mae 95% o dorf Eglwys Tredegarville yn fewnfudwyr, ac mae'r Gweinidog Rees yn dweud bod bywyd newydd yno, fel yn nifer o eglwysi eraill yng Nghymru.

"Byddai Tredegarville wedi cau oni bai am y cyfle i ymuno gyda'r Arglwydd yn ei waith i gysylltu gyda'r bobl yma," meddai.

"Rwy'n siŵr byddai eglwysi eraill yn dweud fod pobl sy'n dod atyn nhw o wledydd eraill, fel ffoaduriaid a cheiswyr lloches, yn fendith iddyn nhw fel y maen nhw i ni."