'Defnyddiwch y Gymraeg' er mwyn gwella gofal cleifion

  • Cyhoeddwyd
Lesley Ann Davies gyda Leslie Foulkes
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Lesley Ann Davies, mae defnyddio Cymraeg ar y ward yn gwella gofal

Mae ymgyrch i chwalu rhwystrau iaith er mwyn gwella tawelwch meddwl cleifion wedi cael ei lansio ar draws ysbytai'r gogledd.

Mae miloedd o staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn cael eu hannog i ddefnyddio'r Gymraeg, hyd yn oed os mai ond ychydig eiriau sydd ganddyn nhw.

Gobaith penaethiaid iechyd yw y bydd yr ymgyrch yn cael effaith ar ofal cleifion, yn enwedig i siaradwyr Cymraeg sydd â dementia neu sydd wedi cael strôc.

Eleri Hughes-Jones yw rheolwr gwasanaeth iaith Gymraeg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a dywedodd: "Ry'n ni wedi sylwi dros gyfnod o flynyddoedd bod staff sy'n medru'r Gymraeg ddim yn defnyddio'r iaith am nad oes ganddyn nhw hyder.

"Nod yr ymgyrch yma yw eu hannog nhw a rhoi hyder iddyn nhw. Hyd yn oed os mai ond ychydig eiriau sydd gennych, fe all wneud gwahaniaeth i glaf."

'Maen nhw'n hapusach'

Un sy'n gweithio fel gweithiwr gofal ar ward henoed yn Ysbyty Gwynedd yw Lesley Ann Davies, a dywedodd ei bod yn glir fod yr iaith wedi bod o gymorth i'w chleifion.

"Mae'n newid tôn yn llwyr ac maen nhw'n ymateb i mi yn llawer gwell," meddai.

"Mae'n helpu fi i sicrhau eu bod yn cael y gofal y maen nhw angen oherwydd mae mwy o ymddiriedaeth yna - mae'n awtomatig."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Yankir Perez yn dweud fod defnyddio'r Gymraeg yn dangos parch i gleifion a'u cymuned

Mae'r ymgyrch yn cael ei redeg yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan ac Ysbyty Maelor Wrecsam.

Technegydd fferyllfa yw Yankir Perez, ac fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg wedi iddo symud i Gymru o Ciwba chwe blynedd yn ôl.

"Dwi'n medru siarad, dwi'n meddwl, mwy efo pobl. Maen nhw'n hapusach dwi'n meddwl - dwi'n medru gweld o ar eu hwyneb nhw."