CBDC yn gwahardd cynghrair merched wedi ffrae
- Cyhoeddwyd
Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gwahardd cynghrair pêl-droed merched yn y gogledd yn dilyn ffrae dros adael i un tîm gystadlu.
Roedd CPD Merched Y Rhyl wedi gobeithio cyflwyno tîm yng Nghynghrair Bêl-droed Merched Gogledd Cymru fel ffordd o ddatblygu rhagor o chwaraewyr.
Ond gan fod tîm cyntaf y clwb eisoes yn chwarae yn Uwch Gynghrair Merched Cymru fe wrthododd cynghrair y gogledd ganiatáu i'r ail dîm ymuno oherwydd pryder y gallai'r ddau dîm fod yn yr un gynghrair yn y dyfodol.
Mae cadeirydd y gynghrair, Bill Darwin, wedi beirniadu'r penderfyniad gan ddweud eu bod yn gofyn am gyngor cyfreithiol.
Gohirio gemau
Roedd CPD Merched Y Rhyl wedi ennill yr hawl i gynnwys tîm yn y gynghrair ar gyfer tymor 2017/18, ond fe wnaeth y gynghrair wrthod trefnu gemau iddyn nhw.
Dadl Cynghrair Bêl-droed Merched Gogledd Cymru oedd y byddai problemau pe bai tîm cyntaf Y Rhyl yn disgyn o'r Uwch Gynghrair.
Cafodd holl gemau'r gynghrair eu gohirio yn dilyn y ffrae.
Y gymdeithas bêl-droed fydd nawr yn gyfrifol am redeg y gynghrair am weddill y tymor.
Dywedodd Cadeirydd Cynghrair Bêl-droed Merched Gogledd Cymru, Bill Darwin y byddai peidio herio'r penderfyniad yn annog clybiau eraill i gyflwyno timau datblygu ac ail dimau i chwarae yn y gynghrair.
'Anffafriaeth ar sail rhyw'
Mae'n bwriadu ysgrifennu at UEFA a FIFA ynglŷn â'r penderfyniad, ac yn dadlau nad yw'r un drefn yn bodoli o fewn unrhyw gynghrair ar gyfer timau dynion.
Dywedodd: "Mae hwn yn achos clir o anffafriaeth ar sail rhyw gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru. Rydym yn gofyn am gyngor cyfreithiol."
Ychwanegodd y gallai'r penderfyniad ysgogi rhai sydd ynghlwm â phêl-droed merched yn y gogledd gefnu ar y gymdeithas bêl-droed yn gyfan gwbl.
"Waeth i ni heb â bod yn rhan o gymdeithas fach sy'n ymrwymo i ddatblygiad merched nag un fawr sydd ddim yn cynnig y datblygiad cywir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2018