Galw am newid diwylliant o fewn byrddau iechyd Cymru

  • Cyhoeddwyd
Offer meddygolFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae gofyn am "wellhad diwylliannol" o fewn byrddau iechyd Cymru er mwyn atal cynnydd blynyddol yn nifer cwynion, yn ôl Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Mae disgwyl i nifer y cwynion yn erbyn byrddau iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG Cymru gyrraedd ei lefel uchaf mewn pum mlynedd yn 2017-18.

Dywed yr ombwdsmon Nick Bennett bod "cyfle, yn sicr" am welliant yn y ffordd y mae byrddau iechyd yn delio â'r cyhoedd.

Ond dywedodd y corff sy'n cynrychioli rheolwyr GIG eu bod yn canolbwynio ar ddarparu'r gwasanaethau gorau i gleifion.

Mae swyddfa'r ombwdsmon wedi gweld cynnydd o 14% mewn cwynion yn erbyn byrddau iechyd Cymru ac Ymddiriedolaethau GIG eleni, gyda 655 o gwynion hyd yma o'i gymharu â 574 erbyn yr un cyfnod yn 2017.

Bob blwyddyn mae ymddiriedolaethau GIG Cymru'n talu degau o filiynau o bunnau mewn iawndal a chostau cyfreithiol yn sgil achosion o esgeulustod meddygol.

Mae'r ombwdsmon wedi galw am gael mwy o bwerau cyfreithiol er mwyn ymchwilio i gyrff cyhoeddus fel y gwasanaeth iechyd.

Mae nifer y cwynion yn erbyn cyrff cyhoeddus sy'n cyrraedd ei swyddfa wedi dyblu mewn 10 mlynedd, ac yn ôl Mr Bennett mae "pryder sylweddol" ynghylch cwynion yn ymwneud â gofal mewn ysbytai.

Dywedodd: "Mae'n rhaid iddyn nhw ddelio gyda phoblogaeth sy'n heneiddio a galw ychwanegol, ond mae'r rhain yn gyrff mawr ac rwy'n meddwl bod cyfle i wella'r diwylliant a'r ffordd maen nhw'n delio gyda chwynion gan y cyhoedd."

"Mae'n rhaid bod yn fodlon ac yn barod i wrando ar brofiadau defnyddwyr gwasanaeth. Dylid defnyddio'r adborth ganddyn nhw fel ymgynghoriaeth rhad ac am ddim i wneud yn siŵr bod yna welliant yn y ffordd y mae pobl yn derbyn gwasanaethau.

"Mae atal yn well na thrin, ac os rydyn ni'n gwneud mwy i sicrhau bod yna ddiwylliant gwirioneddol o ddysgu a gwella, rydym yn llai tebygol o weld methiannau all arwain at farwolaethau y mae modd eu hatal."

Mae Mr Bennett hanner ffordd trwy dymor saith blwyddyn fel ombwdsmon ac mae wedi derbyn 7,901 o gwynion hyd yma, gan gefnogi 638 a datrys 842 yn fuan yn y broses.

Fe allai swyddfa'r ombwdsmon gael pwerau ychwanegol cyn diwedd 2018, gan gynnwys yr hawl i ddechrau ei ymchwiliadau ei hun.

"Gallen ni ddim sefyll yn ôl a gweld cwynion yn codi a chodi," meddai.

"Dydw i ddim yn miniogi cyllell yn fan hyn yn chwilio am rywun i bigo arno .... po mwyaf o wersi sydd, po leiaf y siawns o ailadrodd yr un camgymeriadau eto."

Dywedodd Mr Bennett y dylai byrddau iechyd "greu diwylliant sy'n dymuno delio gyda chwynion a dysgu ohonyn nhw" a'u gweld fel "archwilio positif".

Ymateb rheolwyr GIG

Yn ôl Conffederasiwn GIG Cymru, y corff sy'n cynrychioli saith bwrdd iechyd Cymru a thair Ymddiriedolaeth GIG. fe wnaeth arolwg diweddar ddangos fod 91% o gleifion yn fodlon gyda'r gofal yn ystod eu hapwyntiad ysbyty diwethaf, a dywedodd 96% eu bod wedi cael eu trin mewn ffordd urddasol.

Dywedodd Vanessa Young, cyfarwyddwr y conffederasiwn."Mae staff GIG ar bob lefel yn ymroddi i sicrhau fod pob claf yn cael y gofal safon uchel maen nhw'n ei haeddu."

Ond tra bod y mwyafrif yn cael "profiad positif", mae hi'n "cydnabod nad dyna'r achos bob tro".

"Pan nad yw'r gofal yn cyrraedd y safonau uchel y mae cleifion yn ei haeddu ac yn ei ddisgwyl, mae'n rhaid i ni weithredu i gywiro pethau.

"Rydym yn annog yn gryf i unrhyw un sydd â phryder am eu gofal neu driniaeth i siarad gydag aelod staff profiadol gynted â phosib, er mwyn delio â'r pryder yn syth.

"Mae adborth a phrofiadau cleifion, perthnasau a staff yn hollbwysig i helpu'r GIG ddarparu'r safonau uchel o ofal y mae staff yn gweithio'n galed i'w rhoi o ddydd i dydd."