Pryd ddylai plant gael ffôn symudol?

  • Cyhoeddwyd

Pryd ddylai plant gael ffôn symudol?

Beth yw effaith technoleg ar blant a phobl ifanc a sut i reoli defnydd o ffônau symudol a gwefannau cymdeithasol?

Gyda phlant wyth neu naw oed yn gofyn am ffonau symudol, a phlant mor ifanc â dwy neu dair oed yn crio a strancio pan mae'r dabled yn cael ei gymryd o'u coliau, mae nifer o benderfyniadau dyrys a chwestiynau anodd eu hateb yn wynebu rhieni heddiw.

Gofynnodd Cymru Fyw i ddau riant sy'n arbenigo yn y maes am eu barn:

Ffynhonnell y llun, Guto Bongos

Mae Guto Bongos (Guto Lloyd-Davies) yn gweithio fel ymgynghorydd yn maes rhwydweithiau cymdeithasol ac yn hyfforddi sefydliadau ac unigolion sut i ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol. Mae ganddo ddwy ferch, Gwen sy'n 8 a Magi sy'n 10.

Mae fy merch hynaf Magi yn 10 oed ac mae un neu ddau o'i ffrindiau hi wedi dechrau cael ffonau symudol a chyfrifon cymdeithasol. Rydyn ni i gyd yn gwybod mai 13 oed ydi'r limit ond mae 'na lot yn mynd arnyn nhw yn gynt na hynny.

Mae Magi wedi bod yn gofyn ers talwm ond yn y chwe mis diwetha' mae hi wedi bod yn rili'n gofyn oherwydd ei bod wedi gweld plant eraill yn cael un. Fyswn i'n dweud bod ryw 5% yn ei blwyddyn hi wedi cael ffôn symudol.

Mae'n rhan o fywyd rŵan. Rydan ni i gyd eisiau sgwrsio efo'n ffrindiau, rhannu lluniau, cario clecs a gweld be' mae pwy a pwy yn wneud, ac mae plant yr un fath.

Maen nhw'n byw mewn byd cymdeithasol iawn felly mae jyst yn rhan o'u bywyd nhw. Ond mae hynny'n ei wneud yn fwyfwy pwysig i fi fel rhiant mod i'n dysgu sgiliau iddyn nhw a'u dysgu be i sbïo allan amdano fo.

'Dyn ni fel rhieni'r dosbarth wedi cael chat a 'dan ni gyd yn meddwl mai'r ysgol uwchradd ydi'r ffin ar gyfer cyfryngau cymdeithasol a chael ffôn eich hun, oherwydd fod y plant yn fwy call yr oed yna - mae angen bach mwy o sens i fynd ar-lein.

Fy nghyngor i i'r ferch ydy i fod yn ofalus o ran datgelu manylion personol, ble mae hi yn ystod y dydd, ble mae hi'n byw ac yn y blaen.

Oherwydd fod plant yn naïf mae angen eu dysgu am beryglon mewn bywyd - heb sbwylio'r hwyl wrth gwrs!

Ffynhonnell y llun, ANDREYPOPOV

'Dangos esiampl fel rhieni'

Mae'r cwestiwn yma yn codi efo plant hŷn hefyd. Dydy'r peryglon ddim mor amlwg efallai yn y byd digidol felly 'da ni fel rhieni ac yn yr ysgolion, angen addysg yn y maes yma, achos dydy hi ddim yn bosibl gwahardd y peth.

Mae merched ifanc yn rhoi lluniau o'u hunain ar eu cyfrifon, ond mae mamau, ac ambell un sy'n athrawes,yn gwneud yn union yr un peth. Dwi'n credu ei bod hi'n bwysig i'r bobl yma ddangos esiampl fel rhieni.

Y peth gwaethaf fedrwch chi ei wneud fel rhiant ydy dweud 'na' a'r munud nesaf maen nhw yn y llofft dan y dwfe yn siarad efo pwy a ŵyr. Felly mae'n bwysicach cael chat am y peth fel rhiant fel ein bod ni'n gallu helpu a chadw golwg a gweld eu bod nhw'n saff.

Ffynhonnell y llun, Prifysgol Southampton
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dr Angharad Rudkin yn seicolegydd plant yn gweithio gyda phlant a'u teuluoedd

Mae Dr Angharad Rudkin yn seicolegydd clinigol sy'n arbenigo mewn datblygiad plant. Cafodd ei magu yn Llanberis, mae'n fam i dri o blant a bellach mae'n gweitho ym Mhrifysgol Southampton:

Mae'r oedran y mae plentyn yn cael ffôn clyfar yn dibynnu ar y plentyn a'r teulu. Un ffordd o feddwl am hyn ydy y dylai plant ond gael yr hawl i ffôn clyfar pan 'dych chi fel rhiant yn barod iddyn nhw weld lluniau rhywiol ac i gymryd rhan mewn sgyrsiau cyber a allai fod yn niweidiol.

Mae hyn yn ffordd reit eithafol o edrych arno, ond unwaith bod eich plentyn yn cael ffôn clyfar mae'n rhaid i chi dderbyn eu bod nhw'n ddefnyddwyr annibynnol ac mae'n ddigon posib y byddan nhw'n dod ar draws pethau (naill ai ar ddamwain neu'n fwriadol) a allai fod yn ofidus iddyn nhw.

Does dim rhaid i blant gael ffôn clyfar i ddechrau. Fe allen nhw ddechrau gyda ffôn syml, ac unwaith y byddan nhw wedi dangos eu bod nhw'n gallu ei ddefnyddio'n gyfrifol ac yn synhwyrol, fe allen nhw weithio tuag at un mwy soffistigedig.

Mae gwefannau cymdeithasol wedi eu dylunio ar gyfer pobl sy'n 13 oed neu'n hŷn, felly mi fydd y rhan fwya' o'r cynnwys ar gyfer y grŵp oedran yma. Mae cyfathrebu digidol yn reit wahanol i sgwrsio wyneb yn wyneb ac ar y dechrau dydy nifer o bobl ifanc ddim yn deall y cyfrwng.

Beth sydd angen i blant fod yn hollol ymwybodol ohono ydy beth sy'n digwydd i'w data, sut mae diogelu eu preifatrwydd, pwy sydd berchen y wefan a sut maen nhw'n defnyddio hysbysebion. Mae'r wybodaeth y maen nhw'n ei rannu ar y we yno am byth a gall prifysgolion edrych ar dudalennau Facebook pan maen nhw'n recriwtio.

Yn emosiynol, fe all gael effaith reit niweidiol os ydy plant yn cael eu bwlio, pryfocio, cael eu neilltuo arlein neu os ydyn nhw'n dod ar draws syniadau a delweddau sy'n anaddas i'w hoedran.

'Deall y byd technegol gyda'ch gilydd'

Ond beth dyw plant ddim yn ei wneud pan maen nhw o flaen y sgrin sy' fwya' pryderus. Fel rhiant, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw'r balans rhwng unrhyw amser o flaen sgrin gyda sgyrsiau wyneb yn wyneb, cyfrannu i fywyd teuluol (e.e. mynd â'r ci am dro) ac ymlacio.

Wrth siarad â'ch plant am yr holl bethau yma, a ffeindio allan amdanyn nhw gyda'ch gilydd mae'n golygu y byddan nhw'n fwy tebygol o ddeall y byd digidol a chael y mwya' allan o'r we wrth amddiffyn eu hunain.

Dysgwch gyda'ch gilydd yn hytrach na'i fod yn rhywbeth mae eich plant yn ei wneud ar eu pennau eu hunain yn eu 'stafell wely.