Dyn o Gaerdydd yn gorfod aros wyth mis am driniaeth canser

  • Cyhoeddwyd
Ronny Andrews
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Ronny Andrews driniaeth cemotherapi dwys fisoedd ar ôl i'r tiwmor gael ei ddarganfod

Mae dyn o Gaerdydd wedi disgrifio sut y buodd yn rhaid iddo aros wyth mis am driniaeth canser, cyn cael gwybod na fyddai modd gwella ei gyflwr.

Cafodd Ronny Andrews, sy'n 64 oed, wybod fod ganddo diwmor ar ei afu ym mis Ionawr 2017, ond chafodd e ddim triniaeth tan fis Medi'r flwyddyn honno.

Mae'r cyfnod bedair gwaith yn hirach na tharged Llywodraeth Cymru o ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod.

Roedd sawl rheswm am yr oedi cyn dechrau triniaeth, ac erbyn i Mr Andrews gael cemotherapi dwys, cafodd wybod ei bod hi'n rhy hwyr.

Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro wrth Mr Andrews am ddiffyg cyfathrebu, ond yn dweud fod "yr ymchwiliadau a gafodd eu cynnal wedi bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar ddiagnosis a thriniaeth".

'Dim ofn'

Mewn cyfweliad ar raglen Wales Live BBC Cymru, dywedodd Mr Andrews nad oedd ofn y canser arno, ond ei fod eisiau cael ei wared: "Ond wrth i amser fynd heibio, roeddwn i'n meddwl, 'wel mae hwn yn tyfu ac yn tyfu a ddim yn dod allan'."

"Pan welon nhw fe gyntaf, roedd e'n 5cm, ond erbyn iddyn nhw drafferthu ei dargedu, roedd e'n 15cm.

"Yn amlwg, roedd e'n ffyrnig ac yn tyfu'n gyflym."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Mr Andrews wedi cael gwybod bod ganddo rhwng tri a chwe mis i fyw

Erbyn yr haf y llynedd, cafodd Mr Andrews wybod fod y canser yn derfynol.

Cafodd un driniaeth - TACE - lle mae cemotherapi yn cael ei chwistrellu i mewn i'r tiwmor, ond chafodd e fawr o effaith ar y canser, a bellach mae wedi cael gwybod fod ganddo rhwng tri a chwe mis i fyw.

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi ymddiheuro wrth Mr Andrews am y diffyg cyfathrebu, ond dywedon nhw fod yr ymchwiliadau a gafodd eu cynnal wedi bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu ar ddiagnosis a thriniaeth.

Ychwanegodd llefarydd: "Mae rheoli a diagnosis canser yn broses amlddisgyblaethol a chymhleth.

"Gall diagnosis fwy syml gymryd ychydig wythnosau'n unig, ond gall diagnosis canser sy'n anodd i'w adnabod gymryd misoedd.

"Mae perfformiad y bwrdd iechyd yng nghyd-destun targed 62 diwrnod Llywodraeth Cymru wedi gwella o 70% yn 2015-16 i 89% eleni, er i fwy o gleifion gael eu trin bob blwyddyn."

Ystyried newid targedau

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething ei fod yn ystyried newid targedau trin canser er mwyn adlewyrchu profiad cleifion yn well.

Dywedodd: "Mae gyda ni'r targed amser, ond dydy'r targed hwnnw ddim yn dweud wrthoch chi am oroesi, am y canlyniadau i bobl, ac am y profiad maen nhw'n ei gael.

"Mae gen i ddiddordeb mewn cael trafodaeth ehangach gyda'r cyhoedd a phobl sy'n gweithio i'r gwasanaeth iechyd.

"Mae'n ymwneud â chael set o fesurau synhwyrol, sy'n helpu i ysgogi'r math iawn o ymddygiad er mwyn gwella profiadau a chanlyniadau."

Disgrifiad o’r llun,

Mae Ronny Andrews a'i wraig yn ceisio dod i dermau â'r diagnosis

Dywedodd Dr Tom Crosby o Rwydwaith Canser Cymru bod angen mwy o nawdd i wella'r amser rhwng diagnosis a thriniaeth.

"Er ein bod yn gwybod fod profiad cleifion yn gyffredinol yn dda iawn o fewn gwasanaeth canser Cymru o ganlyniad i waith caled staff, rydyn ni'n gwybod nad yw lefelau goroesi cystal ag y gallai fod.

"Rydym yn credu fod o leiaf rhan o hynny'n ymwneud â'r amser y maen nhw'n ei dreulio o fewn y system gofal iechyd, wedi i amheuon godi fod canser arnyn nhw, ond cyn iddyn nhw ddechrau triniaeth."

Bydd unrhyw newid yn rhy hwyr i Mr Andrews.

"Mae'r sganiau nawr yn dangos ei fod wedi tyfu'n rhy fawr ac y bydd yn dechrau effeithio ar weddill fy organau.

"Dyna rydyn ni'n gwneud nawr. Rydyn ni'n aros. Ac yn parhau i fyw ein bywydau wrth gwrs.

"Mae'n rhaid i chi. Does dim dewis."

Wales Live, BBC One Cymru, 10.30pm Dydd Mercher 7 Chwefror