Undeb yn gobeithio am 'oes aur newydd' i'r diwydiant dur

  • Cyhoeddwyd
Gwaith dur Port TalbotFfynhonnell y llun, Christopher Furlong/Getty Images

Bydd un undeb yn dadlau bod "oes aur i gynyrchu dur" yn bosibl os oes ymrwymiad i oresgyn yr heriau sy'n wynebu'r diwydiant.

Mae undeb Community yn cynnal uwchgynhadledd ar gyfer gweithwyr, cyflogwyr, arbenigwyr y diwydiant a gwleidyddion yn Redcar yng ngogledd Lloegr.

Bydd gweinidog busnes y DU, Richard Harrington, yn annerch.

Mae'r undeb am i lywodraethau a chyflogwyr fuddsoddi yn sgiliau a thechnolegau'r dyfodol.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng nghysgod hen waith dur SSI, a gaeodd yn 2015.

Cymru'n cyfrannu

Fe fydd uwch-swyddogion gyda chwmnïau sydd â chysylltiad cryf gyda Chymru yno hefyd, gan gynnwys Tata, Liberty a Celsa hefyd yn cyfrannu.

Bydd y cynadleddwyr hefyd yn trafod digwyddiadau'r blynyddoedd diweddar a welodd Tata'n rhoi eu holl ffatrioedd yn y DU ar werth yn 2016, y dadlau dros fewnforio dur o China ac yna cytundeb i fuddsoddi £10bn yn cael ei gynnig.

Ond mae pryder hefyd fod llywodraeth y DU yn canolbwyntio llai ar ddyfodol y diwydiant ers i amodau'r farchnad wella, gan ddod â sibrydion am argyfwng i ben.

Disgrifiad o’r llun,

Ffynhonnell: ISSB Ltd, 2018

Mae faint o ddur amrwd sy'n cael ei gynhyrchu yn y DU yn cael ei ystyried yn sefydlog o fewn y diwydiant, er bod faint sy'n cael ei gynhyrchu ar draws y byd wedi cynyddu 5% yn ystod 2017.

Fe fydd undeb Community yn dadlau bod dyfodol hirdymor y diwydiant - sy'n dal i gyflogi tua 14,000 o weithwyr yn y DU - yn dal ymhell o fod yn ddiogel.

Disgrifiad o’r llun,

Ffynhonnell: DBEIS, Rhagfyr 2017

Ond mae'r undeb yn credu bod modd gwneud hynny, gydag un astudiaeth gan lywodraeth y DU yn dweud y bydd y galw am gynnyrch gan gynhyrchwyr dur gorffenedig y DU yn cynyddu'n sylweddol - os bydd y buddsoddiad a'r mesurau cywir yn eu lle, ac os bydd Brexit yn llwyddiannus.

"Yn hytrach na gweld machlud y diwydiant, fe all dur fod yn sylfaen gynhyrchiol, technoleg-uchel, ac gyfer sector cynhyrchu Prydain ar ôl Brexit," medd yr undeb.

Yn y cyfamser, yn y de, gydag un llygad ar y dyfodol, bydd y Sefydliad Dur a Metel yn cael ei agor yn swyddogol ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae Tata yn darparu 45 o staff ymchwil a datblygu i weithio ochr yn ochr â 20 o ymchwilwyr y brifysgol i weithio ar gynnyrch newydd a phrosesau i sicrhau fod y gadwyn gynhyrchu a'r diwydiant dur yn ehangach yn "barod ar gyfer y 21ain ganrif".