Adolygiad i achosion o gam-werthu pensiynau dur

  • Cyhoeddwyd
Port TalbotFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae'r heddlu yn adolygu adroddiadau fod gweithwyr dur Port Talbot wedi cael cyngor gwael am bensiynau.

Mae gweithwyr cwmni Tata yn honni eu bod wedi cael cyngor gwael i symud oddi wrth Gynllun Pensiwn Dur Prydain ar ôl i'r cynllun gael ei wahanu o'r busnes.

Mae'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol eisoes yn ymchwilio i 17 o gwmnïau dros y ffordd mae'r mater wedi cael ei drin.

Dywedodd Heddlu De Cymru eu bod yn "adolygu gwybodaeth benodol sydd wedi dod i'w sylw".

Mae rhai gweithwyr yn honni eu bod wedi cael eu cynghori i symud at gynlluniau eraill a bod hynny wedi eu gadael mewn sefyllfaoedd ariannol gwaeth.

Mae Cynllun Pensiwn Dur Prydain yn dweud nad ydynt mewn sefyllfa i gadarnhau faint o aelodau sydd wedi dewis ymuno â'r ddau opsiwn sydd wedi bod ar gael iddynt.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Roedd yn rhaid i tua 130,000 o weithwyr a chyn-weithwyr ar draws y DU benderfynu beth i'w wneud gyda'u pensiynau ar ôl i'r cynllun gael ei wahanu oddi wrth y busnes fis Medi diwethaf.

Cytunwyd gyda rheoleiddwyr y cynllun pensiwn i rannu'r cytundeb yn ddau, oherwydd bod buddsoddwyr posib yn gweld Cynllun Pensiwn Dur Tata (sydd werth £15bn) yn rhwystr sylweddol i'r cwmni dur Almaenig ThyssenKrupp uno'r cwmni.

Roedd yr opsiynau'n cynnwys aros gyda'r cynllun presennol, neu symud i Gynllun Pensiwn Dur Prydain newydd, neu drosglwyddo i gyfrifon cynilo personol.

Ond dywedodd gweithwyr fod trosglwyddo'u pensiynau i gynlluniau preifat wedi "achosi trafferthion", tra bod pryderon yn cael eu codi yn y senedd am y sefyllfa yn profi i fod yn "bot mêl ar gyfer sgamwyr" fel cynghorwyr ariannol sy'n targedu gweithwyr.

Mae rhai cwmnïau eisoes wedi cytuno i roi'r gorau i ymgynghori gyda gweithwyr dur Port Talbot dros bensiynau, ar ôl i bryderon godi.