300,000 apwyntiad ysbyty wedi eu methu yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Ysbyty

Fe wnaeth bron i 300,000 o apwyntiadau ysbyty gael eu methu yng Nghymru yn 2016/17.

Mae'r byrddau iechyd yn dweud bod hyn wedi costio mwy na £36m, ond mae cyfrifiadau tebyg wedi cael eu cwestiynu yn y gorffennol am fod meddygfeydd weithiau'n cael eu gorfwcio.

Mae pob apwyntiad sy'n cael ei fethu yn costio rhwng £55 a £160 ar gyfartaledd.

Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro oedd â'r nifer uchaf o apwyntiadau gafodd eu methu, a dywedodd un llawfeddyg bod y sefyllfa'n "gwylltio" meddygon a chleifion sy'n aros am driniaeth.

I geisio lleihau'r broblem, mae rhai byrddau iechyd wedi dechrau gyrru negeseuon testun yn atgoffa cleifion o'u hapwyntiadau.

Apwyntiadau gafodd eu methu a'u cost tybiedig:

  • Caerdydd a'r Fro - 71,000 apwyntiad ar gost o £160 yr un;

  • Betsi Cadwaladr - 46,000 apwyntiad ar gost o £140.52 yr un;

  • Abertawe Bro Morgannwg - 58,000 apwyntiad ar gost o £66 yr un;

  • Cwm Taf - 45,000 apwyntiad ar gost o £132 yr un;

  • Hywel Dda - 32,000 apwyntiad ar gost o £140 yr un;

  • Aneurin Bevan - 34,000 apwyntiad ar gost o £137 yr un;

  • Powys - 2,871 apwyntiad, dim cost wedi ei roi.

Ffynhonnell: Ystadegau Cymru ac Cais Rhyddid Gwybodaeth BBC.

Roedd y 71,000 o apwyntiadau gafodd eu methu yng Nghaerdydd a'r Fro yn 11% o holl apwyntiadau'r bwrdd.

Dywedodd y llawfeddyg ymgynghorol, Dr Mike Fardy: "Efallai ei fod ond yn driniaeth fach ond mae'n driniaeth werthfawr y gallai rhywun arall ei gael.

"Mae'n gwylltio rhywun. Dydw i ddim yn bod yn feirniadol ond os ydych chi'n rhoi gwybod i ni, mae rhestr o [gleifion eraill] all ddod i mewn gydag ychydig iawn o rybudd."

Mae'r bwrdd bellach wedi dechrau cynllun peilot i yrru neges yn atgoffa cleifion o'u hapwyntiad a'r gost os nad ydyn nhw'n mynd.

Dywedodd rheolwr y cynllun, Tina Ball: "Prosesu'r apwyntiad pan ddaw i mewn, ei roi ar y rhestr aros, gwneud yr apwyntiad, mae'n rhaid i ni edrych am y nodiadau, ac yna amser yr ymgynghorydd.

"Os ydych chi'n adio hynny i gyd at apwyntiad, mae'n costio tua £160."

Cynnig dirwyo cleifion

Fe wnaeth cynllun tebyg gan Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan leihau nifer yr apwyntiadau gafodd eu methu o dros 8,500 rhwng 2015/16 a 2016/17, gydag arbedion tybiedig o dros £1m.

Yn 2015, fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gynnig syniad o ddirwy o £10 i gleifion sy'n methu apwyntiadau'n aml, gan ddweud bod rhaid i'r cyhoedd ddefnyddio'r Gwasanaeth Iechyd mewn ffordd "gyfrifol".

Ond dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai dirwy'n rhy gymhleth i'w gyflwyno, gyda meddygon teulu'n gwrthod y syniad.