Carcharu 12 am gyflenwi heroin a chocên yn Abertawe

  • Cyhoeddwyd
Ymgyrch Blue ThamesFfynhonnell y llun, Heddlu De Cymru

Mae 12 o bobl wedi cael eu carcharu am gyfanswm o dros 48 mlynedd am fod yn gysylltiedig â gwerthu cyffuriau Dosbarth A yn Abertawe.

Bydd y gang yn treulio rhwng 28 mis a naw mlynedd yn y carchar.

Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Ahmed Hussain, 29, a Mustafa Mohamed, 29, yn trefnu i symud y cyffuriau o Lundain i dde Cymru ar drenau ac ar hyd yr M4.

Dywedodd yr erlyniad bod y cynllwyn wedi parhau hyd yn oed ar ôl i Hussain a Mohamed gael eu harestio, gydag Elen Ekpaloba yn camu i'w rôl.

Mae troseddau o'r math yma'n cael eu galw'n rhai "county lines", ble mae gangiau mewn dinasoedd mawr fel Llundain yn cyflenwi cyffuriau i werthwyr mewn dinasoedd neu drefi llai.

Tracio ffonau symudol

Fe wnaeth Ymgyrch Blue Thames yr heddlu ddarganfod bod y criw yn gyrru negeseuon tecst at gwsmeriaid yn dweud pan fo rhagor o gyffuriau wedi cyrraedd Abertawe.

Ond fe wnaeth heddlu cudd ymateb i rai o'r negeseuon yma, gan drefnu i gwrdd â'r gwerthwyr i ffugio prynu heroin a chocên.

Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth yr heddlu gynnal cyrchoedd ar draws de Cymru fel rhan o'r ymgyrch

Fe wnaeth yr heddlu hefyd dracio ffonau symudol y gang, gan weld eu bod yn teithio'n aml rhwng Llundain ac Abertawe.

Dywedodd yr erlyniad bod y criw wedi gallu gwneud £103,000 gan ddefnyddio dim ond un ffôn.

Pan gafodd y ffôn hwnnw ei gymryd gan yr heddlu, fe wnaeth y gwerthu barhau gydag un arall, a cafodd yr ail ffôn ei ddefnyddio i werthu £26,500 o gyffuriau.

Fe wnaeth dros 600 o heddweision gymryd rhan yn Ymgyrch Blue Thames dros gyfnod o chwe mis.

Y dedfrydau'n llawn

  • Mustafa Mohamed, 29 o Lundain - naw mlynedd

  • Ahmed Hussain, 29 o Lundain - chwe blynedd a hanner

  • Elen Ekpaloba, 21 o Lundain - pedair blynedd a phedwar mis

  • Jamie Knox, 26 o Abertawe - pedair blynedd

  • Phillipa Turner, 29 o Abertawe - pedair blynedd

  • Jonathan Harling, o Abertawe - tair blynedd ac wyth mis

  • Jama Fahima, 22 o Lundain - tair blynedd ac wyth mis

  • Kerry Inger, 21 o Abertawe - tair blynedd

  • Michael Chalk, 48 o Abertawe - dwy flynedd ac wyth mis

  • Nigel Dixon, 43 o Abertawe - dwy flynedd ac wyth mis

  • Sophie Colfer, 27 o Abertawe - dwy flynedd a phedwar mis

  • David Parry, 33 o Abertawe - dwy flynedd a phedwar mis