Eglwys yn dathlu ei hofferen olaf

  • Cyhoeddwyd
St. Michael's Church, Conwy
Disgrifiad o’r llun,

Bydd yr eglwys yn dathlu ei hofferen olaf ddydd Sul

Mae eglwys Gatholig Conwy i gau er gwaethaf apêl uniongyrchol gan selogion i Esgob Wrecsam i ailfeddwl.

Fe fydd Eglwys St Michael yn dathlu ei hofferen olaf ar 11 Chwefror.

Dywedodd un o'r selogion Anne McCaffrey: "Mae'r aelodau yn dorcalonnus ac yn ei chael yn anodd amgyffred fod y bygythiad i gau yn dod yn realiti."

Mae apêl ffurfiol nawr wedi ei gyflwyno i'r Esgob gydag ymgyrchwyr yn dweud fod yr eglwys yn "rhan gynaliadwy a bywiog o'r gymuned."

Maen nhw'n bygwth mynd â'u hymgyrch i'r Fatican.

Gwnaed y penderfyniad i gau'r eglwys oherwydd diffyg offeiriaid yn yr ardal a "maint y cwrdd".

Dywedodd yr Esgob Peter Brignall ei fod yn tristau fod penderfyniadau o'r fath yn gorfod cael eu gwneud.

"Rwyf hefyd wedi tristáu oherwydd bod llai o bobl yn mynychu eglwysi, mae yna lai o fedyddio - plant ac oedolion- ac mae yna lai am gael gyrfa fel offeiriaid.

"Dwi ddim yn hoffi gwneud penderfyniadau fel hyn, ond mae'n rhaid i ni gronni ein hadnoddau a sefyll yn gadarn fel bod yr Offeren yn parhau yn rhan ganolog o'r Eglwys Babyddol.

Disgrifiad o’r llun,

Mae prinder offeiriaid o fewn yr Esgobaeth

Fe wnaeth Esgob Peter hefyd rybuddio mewn llythyr "y bydd mwy o eglwysi yn cau."

Cafodd y penderfyniad i gau St Michael ei gyhoeddi mewn gwasanaeth cyn y Nadolig.

Casglu arian apêl

Dywedodd Ms McCaffrey: "Er mwyn cau eglwys mae angen rheswm digonol yn ôl deddfwriaeth yr Eglwys.

"Mae eglwys St Michael yn adeilad sy'n strwythurol gadarn, yn ariannol sefydlog ac mae yna gymuned gref."

"Does yna ddim rheswm digonol" i'w chau."

Dywedodd eu bod eisoes wedi codi dros £700 er mwy mynd i apêl, gan ychwanegu ei bod yn broses ddrud gan y bydd rhan o'r gwrandawiadau yn cael eu cynnal yn Rhufain.

Ddydd Sul hefyd fe fydd eglwys arall yn yr ardal, Eglwys y Galon Sanctaidd yn Hen Golwyn yn cau am y tro olaf, gyda'r aelodau yn symud i Eglwys Gatholig Bae Colwyn.