Galw am well adnoddau i drin cleifion â dystonia
- Cyhoeddwyd
Mae yna alw am well adnoddau arbenigol i drin cleifion sydd â chyflwr dystonia, yn enwedig ar draws y gogledd.
Mae 5,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda'r cyflwr sy'n cael effaith ar symudiadau'r corff.
Ar hyn o bryd mae cleifion y gogledd yn gorfod teithio i Walton ar Lannau Mersi am driniaeth.
Yn ôl Cymdeithas Dystonia Cymru mae prinder adnoddau arbenigol drwy'r wlad.
Mae cleifion sydd â dystonia yn cael eu trin gyda phigiadau botox.
Mae Ann Pierce-Jones o Gaernarfon yn byw gyda'r cyflwr, sy'n effeithio ar ei hasgwrn cefn, pen a'r gwddw.
"Mae wedi newid fy mywyd yn gyfan gwbl," meddai.
"Dwi methu dreifio rŵan... dwi'n ddiolchgar iawn bod Walton ar gael i ni ond dwi'n meddwl bod yn rhaid i ni edrych ar wasanaethau mwy safonol yn y gogledd."
Yn y de mae cleifion yn dweud fod oedi wrth geisio cael triniaeth yn ysbyty mwyaf Cymru, yr Ysbyty Athrofaol yng Nghaerdydd.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro fod y sefyllfa yn un heriol a'u bod wedi wynebu prinder staff yn ddiweddar ond eu bod yn gobeithio adfer y gwasanaeth llawn yn fuan.
Mwy o glinigau
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn cynnal trafodaethau ar hyn o bryd gyda byrddau iechyd yn y de, tra bod bwrdd iechyd sydd â chyfrifoldeb am y gogledd wrthi'n cynnal adolygiad.
"Bydd yr adolygiad yn canfod faint sydd efo dystonia yn yr ardal ac yn lle maen nhw'n byw.
"Bydd yr adolygiad yn fodd i gynllunio am wasanaethau yn y dyfodol gan gynnwys staff arbenigol."
Ychwanegodd: "Rydym yn trafod gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro, y prif ganolfan ar gyfer clinigau botox, a'r byrddau eraill yn y de gyda'r bwriad o agor mwy o glinigau."