Cynnig cyngor i drigolion yn dilyn llifogydd Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Llifogydd
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Afon Cefni orlifo ym mis Tachwedd, yn dilyn diwrnod o law trwm ar draws Cymru

Roedd sesiynau gwybodaeth yn cael eu cynnal ddydd Llun i drigolion ar Ynys Môn gafodd eu heffeithio gan y llifogydd yno y llynedd.

Cafodd 31 o dai yn Llangefni ac 13 ym mhentref Dwyran eu taro wedi i'r Afon Cefni orlifo ym mis Tachwedd.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn ymchwilio i weld beth mae modd ei wneud i atal yr un peth rhag digwydd eto.

Mae sesiwn wybodaeth yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden Plas Arthur yn Llangefni rhwng 15:00 a 19:00 ddydd Llun.

Fe fydd sesiwn hefyd yn Ysgol Dwyran rhwng 17:00 a 19:00 ar 19 Chwefror.

'Nunlle i'r afon fynd'

Dywedodd rhai o berchnogion busnesau yn Llangefni wrth raglen Taro'r Post eu bod yn gobeithio cael atebion i nifer o gwestiynau yn ystod y sesiynau.

Mae'n dal ym amhosib i staff y cwmni cyfreithiol Parry Davies Clwyd-Jones a Lloyd ddefnyddio llawr cyntaf eu swyddfa yn Stryd yr Eglwys.

Dywedodd un o berchnogion y cwmni, Emyr Parry: "Y peth cyntaf fyswn i'n disgwyl... ydy rhoi rhyw fath o gadarnâd bod 'na fodd o fedru lleihau'r tebygrwydd o ga'l difrod fel hyn eto."

Mae hefyd yn codi cwestiynau am effaith y llanw a'r argae ar Afon Cefni, ac am effaith datblygu rhannau o ganol y dref dros y blynyddoedd.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd dŵr ym maes parcio swyddfeydd y cyngor sir yn Llangefni

Dywedodd Emrys Owen, rheolwr Gwesty'r Bull, bod dŵr yn selar yr adeilad bob tro mae 'na law trwm.

"Y noson yna, roedd pob dim i'w weld yn erbyn y dre' - o'dd y glaw yn drwm, o'dd y llanw i mewn, o'dd y gwynt yn dod o'r môr so o'dd yr afon ddim yn mynd i nunlle.

"Dwi'm yn gw'bod be fedran nhw neud amdano fo, ond wedi edrych ar y bont sy'n ganol y dre, mae'n edrych fel bod y gap rhwng top yr afon a'r bont wedi lleihau yn y blynyddoedd cynt a sgen i ddim syniad pryd."

Adroddiad manwl

Dywedodd Sian Williams, pennaeth gweithrediadau CNC yn y gogledd, mai pwrpas y sesiynau yw casglu gymaint o wybodaeth â phosib ar gyfer adroddiad sy'n cael ei lunio yn yr wythnosau nesaf ar y cyd â Chyngor Sir Ynys Môn.

Bydd yr adroddiad yn sail i greu model manwl o'r ardal cyn yr hydref "o dop y dalgylch yr holl ffordd i lawr at yr A5".

Dywedodd Ms Williams: "Mae Afon Cefni yn eitha' unigryw, mae ganddoch chi lyn yn eitha' agos at y dre' uwchben y dre' ac hefyd ma'r afon wedi ei rhoi i mewn i system fel camlas o dan y dre' hefyd.

"Mae hynny'n gallu cyfyngu llif yr afon, a 'da ni isio sbïo ar effaith hynny ar y dre'... cyn bo' ni'n neud unrhyw benderfyniadau."

Mae'r opsiynau posib wedi'r holl ymchwiliadau yn cynnwys codi amddiffynfeydd i warchod tai, a chamau i arafu llif yr afon i ganol y dref wedi glaw trwm.