Ymgynghori ar gynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad

  • Cyhoeddwyd
Siambr y Senedd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd y panel nad oedd 60 Aelod Cynulliad bellach yn ddigon ar gyfer anghenion y Senedd

Mae ymgynghoriad ar droed yn gofyn i bobl rannu eu barn ar gael 20 i 30 o Aelodau Cynulliad ychwanegol.

Fe wnaeth adroddiad gan banel o arbenigwyr argymell y cynnydd am fod angen mwy o aelodau i ddelio â'r llwyth gwaith ychwanegol, wrth i fwy o bwerau gael eu datganoli.

Byddai pobl ifanc 16 oed hefyd yn cael yr hawl i bleidleisio, fel rhan o'r cynigion i ddiwygio'r Cynulliad.

Dywedodd y Llywydd Elin Jones fod yr ymgynghoriad yn "gyfle i lunio senedd genedlaethol y mae pobl Cymru'n ei haeddu".

Rhannu swyddi

Fe wnaeth Deddf Cymru 2017 roi'r gallu i'r Cynulliad newid eu rheolau etholiadol, ei faint, ei enw a materion mewnol eraill.

Yr wythnos diwethaf fe wnaeth ACau bleidleisio'n unfrydol o blaid cynnal ymgynghoriad ar yr argymhellion gafodd ei gwneud gan y panel, oedd wedi'i gadeirio gan yr Athro Laura McAllister o Brifysgol Caerdydd.

Fe wnaeth yr arbenigwyr argymell newid y system bleidleisio i'r Bleidlais Sengl Drosglwyddadwy, gan gyfuno'r 40 etholaeth bresennol i 20 sedd fyddai gyda phedwar aelod yr un.

Elin Jones
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Elin Jones fod Deddf Cymru 2017 yn gyfle i wneud "newidiadau sylweddol i'n deddfwrfa"

Roedd argymhelliad hefyd i greu cwota ar gyfer nifer y menywod yn y Senedd, yn ogystal â gadael i ymgeiswyr rannu eu swydd er mwyn annog mwy o bobl anabl neu'r rheiny sydd yn ofalwyr.

Byddai angen i unrhyw newidiadau gael eu pasio yn y Cynulliad gyda mwyafrif o ddau draean.

Pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr dywedodd Llafur Cymru na fydden nhw'n rhoi eu hymateb terfynol nes eu cynhadledd yn 2019, penderfyniad fyddai'n "lladd" unrhyw obaith o gyflwyno newidiadau cyn etholiad 2021 yn ôl AC Plaid Cymru, Simon Thomas.

Bydd yr ymgynghoriad ar agor nes 6 Ebrill.