Cynnal rhag-wrandawiad i gwest marwolaeth milwyr
- Cyhoeddwyd
Mae rhag-wrandawiad cwest wedi clywed ei bod yn bosib "dadlau bod achosion o dorri rhwymedigaethau'r wladwriaeth" pan fu farw dau filwr yn dilyn ymarferiad hyfforddi.
Bu farw'r Corporal Matthew Hatfield, 27 o Amesbury yn Wiltshire, a'r Corporal Darren Neilson, 31 o Preston, y ddau o'r Catrawd Danciau Brenhinol, ar ôl ffrwydriad yn eu tanc yn ystod ymarferiad.
Cafodd dau filwr arall eu hanafu yn y digwyddiad yn ystod yr ymarferiad yng Nghastellmartin yn Sir Benfro ar 14 Mehefin 2017.
Bydd y crwner yn edrych i weld pa archwiliadau diogelwch ac asesiadau risg oedd yn eu lle ar y safle.
Roedd Uwch Crwner Birmingham a Solihull, Louise Hunt, yn cynnal y gwrandawiad yn Solihull ddydd Llun cyn y cwest llawn ym mis Gorffennaf.
Dywedodd Mrs Hunt: "Yn fy marn i mae modd dadlau bod achosion o dorri rhwymedigaethau'r wladwriaeth."
Ychwanegodd y byddai'n ystyried problemau posib gydag archwiliadau diogelwch yn ystod y cwest.
Ar hyn o bryd, mae achos marwolaeth Cpl Hatfield wedi ei nodi fel llosgiadau, tra bod Cpl Neilson wedi dioddef trawiad ar y galon o ganlyniad i anafiadau sy'n gysylltiedig â'r ffrwydriad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd16 Mehefin 2017