Cyngor wedi methu llanc oedd mewn gofal
- Cyhoeddwyd
Mae adolygiad annibynnol i farwolaeth llanc a laddodd ei hun pan oedd mewn gofal maeth wedi dod i'r casgliad fod nifer o fethiannau gan asiantaethau statudol wedi effeithio arno wrth iddo baratoi i adael y gyfundrefn ofal.
Roedd 'Plentyn A' wedi bod o dan ofal yr awdurdod lleol ers pan yn ddwy oed. Cyn hynny fe ddioddefodd "gamdriniaeth ac esgeulustod corfforol ac emosiynol difrifol".
Lladdodd ei hun dri mis cyn ei ben-blwydd yn 18 oed ar ôl teimlo ansicrwydd a phryder am adael y system gofal a symud i fyw'n annibynnol pan fyddai'n troi'n ddeunaw.
Mae'r adolygiad a gomisiynwyd gan CYSUR - Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Canolbarth a Gorllewin Cymru - yn codi 10 o bwyntiau i'w dysgu gan wasanaethau cymdeithasol, gwasanaethau iechyd, ysgolion ac asiantaethau eraill.
Mewn datganiad dywedodd Cyngor Powys, oedd yn gyfrifol am 'Blentyn A' adeg ei farwolaeth, ei fod yn "ymddiheuro'n ddiamod am y modd y methodd â darparu cefnogaeth briodol i'r dyn ifanc yma".
Ofn byw yn annibynnol
Roedd y cyngor hefyd yn derbyn casgliadau ac argymhellion yr adroddiad, oedd yn dweud nad oedd yr asiantaethau wedi ystyried anghenion addysgol arbennig 'Plentyn A', ei gefndir trafferthus na'i lefel o wytnwch emosiynol wrth iddyn nhw gydweithio i'w symud o'r system gofal.
Roedd 'Plentyn A' wedi bod mewn gofal ers pan yn ddwy oed. Cafodd ei fabwysiadu yn chwech oed cyn dychwelyd i'r system ofal yn 10 oed.
Roedd ganddo arwyddion o ADHD ac roedd ganddo anghenion addysgu arbennig.
Pan fu farw roedd gyda theulu maeth, ac roedd ganddo bryderon sylweddol am beth fyddai'n digwydd pan fyddai'n troi'n 18 oed.
Er fod ganddo berthynas dda gyda'i swyddog adolygu, roedd wedi dweud yn gyson wrth ei swyddogion proffesiynol ei fod yn ofnus am fyw yn annibynnol.
Roedd rhieni mabwysiedig 'Plentyn A' yn dal i chwarae rôl yn ei fagu, ac roedden nhw wedi mynegi pryder y byddai eu mab yn derbyn y gefnogaeth yr oedden nhw'n teimlo ei fod angen.
Ond daeth yr adolygiad i'r casgliad fod hynny wedi creu "perthynas fregus" rhwng y rhieni a phobl broffesiynol.
Galwodd ar staff i ddefnyddio dull fwy empathetig wrth weithio gyda theuluoedd oedd yn cael eu hystyried yn heriol.
Derbyn yr adroddiad
Mae'r adroddiad hefyd yn dweud fod dryswch ymysg staff am y canllaw am ymarfer gorau sy'n caniatáu i bobl yn eu harddegau aros mewn gofal maeth y tu hwnt i fod yn 18 oed.
Dywedodd fod hyn wedi golygu "colli cyfle i fod yn greadigol am lwybr Plentyn A i fod yn oedolyn, ac i greu cynllun fyddai wedi lledfu ei bryderon".
Wth ymateb i'r adroddiad, dywedodd Cyngor Powys: "Mae'r awdurdod lleol yn ymddiheuro'n ddiamod am y modd y methodd â darparu cefnogaeth ddigonol i'r dyn ifanc yma.
"Mae'n derbyn yn llawn gasgliadau'r adroddiad, sy'n cael ei ddefnyddio i wella safon y gwasanaethau sydd ar gael i blant a phobl ifanc sydd o dan ofal."
Dywedodd CYSUR y byddai'n cefnogi gwaith y cyngor tuag at gyflawni argymhellion yr adroddiad.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Collwyd bywyd y person ifanc yma mewn amgylchiadau trasig, ac rydym yn cydnabod fod cyhoeddi'r adolygiad yn gyfnod anodd i'w deulu.
"Rydym yn disgwyl i Gyngor Powys gyflawni'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad fel rhan o gynllun gwella.
"Mae hyn er mwyn sicrhau bod uchelgais deddfwriaeth Llywodraeth Cymru yn cael ei gwireddu fel bod pobl yn cael y gofal gorau a'r gefnogaeth y maen nhw'n ei angen a'i haeddu."