Fyddech chi'n gallu byw heb Facebook?
- Cyhoeddwyd
Mae'n anodd credu nad oes 'na lawer dros 10 mlynedd ers i Facebook ddod i'n bywydau.
Mae'n teimlo fel petai'r wefan gymdeithasol wedi bod efo ni erioed ond gyda'r cwmni mewn dyfroedd dyfnion dros sgandal rhannu data Cambridge Anayltica, ydy'r llanw'n troi?
Yn ogystal â phoeni am ddiogelwch eu gwybodaeth bersonol ydy pobl hefyd yn cael llond bol ar ddiweddariadau statws a lluniau bwyd, plant, cŵn, peints a pouts eu cyfoedion?
Un sydd wedi "gadael Facebook", am y tro o leiaf, ydy Huw Tegid Roberts, cyfieithydd a phregethwr lleyg o Langefni.
Ar ôl rhoi'r gorau i'r wefan dros y Grawys, dydi o ddim ar frys i fynd nôl meddai wrth Cymru Fyw:
Ro'n i'n teimlo mod i ar Facebook byth a beunydd, yn anymwybodol yn mynd ar y tab yna ar fy ffôn oedd wastad yn agored.
Dydw i ddim wedi gweld ei golli. Yn fuan iawn mae rhywun yn dod allan o'r arfer o roi tap ar y ffôn ac agor yr ap.
Dwi'n teimlo fod gen i fwy o amser i wneud pethau eraill ac yn sylwi mor fas, arwynebol, mae Facebook yn gallu bod ar adegau.
Mae Facebook yn fyd rhyfedd, llawn mygydau. Ro'n i'n awyddus i fyw hebddo ac yn y byd go iawn am sbel.
Ro'n i'n ffeindio mod i'n llunio darlun o ffrindiau a chydnabod nad o'n i ddim wedi eu gweld ers tro. Yna'n ffeindio eu bod nhw wedi bod drwy ryw brofiad mawr, wedi gwahanu, neu fynd drwy brofiad bywyd mawr arall, ond nad oeddwn i'n gwybod dim am y peth er mod i'n ffrindiau gyda nhw ar Facebook.
Dydi'r rhai sydd wir angen cefnogaeth ddim yn dangos hynny ar Facebook tra bod y rhai sydd yn gwneud môr a mynydd o bethau yn aml yn iawn yn chwilio am sylw.
Ar ddiwedd dydd ar ôl y gwaith, pan mae rhywun wedi blino a jest eisiau eistedd i lawr ar y soffa, mae'r ffôn yn dod allan.
Ond mae'n wastraff amser, yn rhywbeth diog a hawdd i'w wneud ar ôl i'r plant fynd i'w gwlâu - ond mae'n amser gwag rhywsut.
Dwi hefyd yn gweld y plant ar YouTube ac ar eu teclynnau ac yn meddwl beth am osod esiampl iddyn nhw ac inni i gyd roi'r gorau i'n teclynnau a chwarae gêm efo'n gilydd neu rywbeth felly.
Ofn 'colli allan'
Dyma'r trydydd tro imi roi'r gorau iddi dros y Grawys.
Er nad ydw i wedi gweld ei golli y troeon diwetha' mae wedi bod yn hawdd llithro nôl - rydw i'n cael fy mhen-blwydd yn ystod y Grawys ac mae'n anodd peidio edrych ar y cyfarchion.
Mae pobl yn siarad am beth maen nhw wedi ei weld ar Facebook hefyd a dydi rhywun ddim eisiau colli allan. Wrth i'r eicon ddod nôl ar fy ffôn, cyn imi droi roeddwn i wedi fy nal eto a'r cyffur wedi cael gafael eto.
Ond y tro yma roeddwn i am weld a allwn i fynd ymhellach na 40 diwrnod y Grawys.
Dydw i ddim wedi ailafael yn Facebook o gwbl ers y Pasg. Dydi ailgysylltu ddim wedi apelio o gwbl ata i y tro yma ac mae'n gwestiwn gen i rŵan os a'i yn ôl i'w ddefnyddio o gwbl.
Wn i ddim a fydda i'n mynd mor bell â chael gwared ar y cyfrif yn gyfan gwbl - dwi'n siŵr y daw'n handi ryw dro i gysylltu â hen ffrind coleg neu rywbeth - ond dwi'n reit benderfynol o beidio gadael iddo lenwi cymaint o fy amser hamdden i ag yr oedd o cyn i mi gymryd y seibiant.
Dydw i ddim gwell na dim gwaeth hebddo - rydw i wedi cael clywed am bethau pwysig sydd wedi digwydd drwy ddulliau eraill ac mi fuasai rhywun a fuasai angen cysylltu efo fi o ddifrif wedi gwneud hynny drwy'r un dulliau hynny.
Fel pregethwr lleyg dwi'n teimlo gofal bugeiliol dros bobl felly fe fydd yn chwith peidio gweld sut mae pobl a beth sy'n digwydd yn eu bywydau.
Ond dwi'n gobeithio y bydda' i'n symud o gadw golwg ar bethau ar Facebook at ffyrdd eraill o gadw mewn cysylltiad - galwad ffôn neu neges destun at y bobl agosaf ata' i, pobl dwi wedi bod yn eu hesgeuluso efallai - yn meddwl mod i'n cysylltu drwy roi bawd i fyny ond nad ydw i wir wedi bod yn ymwneud â nhw.