Cwmni nwy'n ymddiheuro i ddynes 90 oed wedi problemau

  • Cyhoeddwyd
Dawn Harvey a Betty Wood
Disgrifiad o’r llun,

Cymydog, Dawn Harvey, fu'n negydu gyda Flogas ar ran Betty Wood

Mae cwmni nwy wedi ymddiheuro i ddynes 90 oed o Sir Benfro oedd wedi cwyno ar ôl cael problemau ceisio newid cyflenwyr nwy.

Roedd Betty Wood o Flaenffos yn gobeithio cael cyflenwad LPG gan gwmni lleol, West Wales Gas, ar ôl iddi weld cynnydd yn ei biliau gan gwmni Flogas y llynedd.

Ond roedd Flogas yn dadlau fod Ms Wood wedi ymrwymo i gytundeb dwy flynedd, gan wrthod dod a'r cytundeb i ben.

Ers y ffrae mae Flogas wedi cyflwyno gwerth 400 litr o danwydd i'r ddynes am ddim fel arwydd o ewyllys da.

Pris uwch na'i chymdogion

Ar ddiwedd 2017, derbyniodd Ms Wood lythyr gan Flogas yn dweud y byddai pris ei thanwydd yn cynyddu i 68c litr, sy'n llawer mwy na'r swm mae ei chymdogion yn y pentref yn talu i gwmnïau eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Flogas, roedd Ms Wood wedi ymrwymo i gytundeb dwy flynedd

Ar ôl gwneud ymholiadau, fe gafodd Ms Wood bris o 39c y litr gan West Wales Gas.

Ond roedd Flogas yn dadlau fod Ms Wood yn ymrwymedig i gytundeb dwy flynedd.

'Anhygoel o galed'

Dywedodd ei chymydog a'i ffrind, Dawn Harvey, a fu'n negydu ar ei rhan, bod y broses o newid darparwyr yn "anhygoel o galed".

"Roedd Betty yn talu dros 70 ceiniog y litr pan oedd pobl leol yn talu rhwng 47 a 56 ceiniog," meddai.

"Mae hyn yn fy mhryderu yn fawr iawn... fod y cwmnïau hyn yn cymryd mantais."

Mae Ms Wood bellach wedi canslo ei thaliadau debyd uniongyrchol i Flogas.

Ymddiheuro am y 'dryswch a'r straen'

Ar eu gwefan, mae Flogas yn disgrifio ei hunain fel "un o gyflenwyr LPG mwyaf blaenllaw Ewrop" ac yn dweud fod gofalu am gwsmeriaid yn "brif flaenoriaeth".

Mewn datganiad dywedodd Flogas: "Rydym yn ymddiheuro am y dryswch a'r straen a achosodd hyn i Ms Wood a'i chymdogion.

Disgrifiad o’r llun,

Roedd disgwyl i Ms Wood dalu llawer iawn yn fwy na'i chymdogion am ei chyflenwad nwy

"Rydym wedi adolygu ein system a gallwn gadarnhau bod Ms Wood wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd gyda ni ym mis Mawrth 2017.

"Ers i'r mater hwn gael ei ddwyn i'n sylw, rydym wedi trefnu ei bod yn derbyn 400 litr o nwy yn rhad ac am ddim, ac fe fyddwn yn gwneud popeth a allwn i ddatrys y mater cyn gynted â phosib."

Ychwanegodd y llefarydd: "Fel mater o flaenoriaeth, rydym yn gweithio gyda West Wales Gas i sicrhau bod cyflenwad Ms Wood yn cael ei newid yn ddidrafferth."