'Angen i Gaerdydd gadw ei chysylltiadau â gwledydd Ewrop'
- Cyhoeddwyd
Mae'n rhaid i Gaerdydd gadw cysylltiadau cryf gyda'r UE wedi Brexit er mwyn economi'r brifddinas - dyna neges arweinydd y cyngor.
Ddydd Llun bydd Huw Thomas yn un o 10 arweinydd a maer cyngor a fydd yn cyfarfod â phrif negodydd yr UE Michel Barnier ym Mrwsel.
Dywedodd Mr Thomas bod sectorau iechyd a lletygarwch yn y brifddinas angen gweithwyr tramor a bod yna 3,000 o fyfyrwyr o'r UE yn ardal Caerdydd.
Ychwanegodd bod cyllid yr UE werth chwe gwaith gymaint dros gyfnod o 20 mlynedd â bargen ddinesig llywodraeth y DU.
Mae'r Fargen Ddinesig yn werth £1.2bn.
Mae'r ddirprwyaeth a fydd yn ymweld â Brwsel ddydd Llun yn cynnwys cynrychiolwyr o ddeg dinas fwyaf Prydain ac eithrio Llundain.
Mae Mr Thomas yn dweud bod angen mynediad "dilyffethair" i'r farchnad sengl a'r undeb tollau.
Dywedodd: "Rwy'n edrych ymlaen i gyflwyno ger bron Mr Barnier yr achos dros gadw cysylltiadau cryf gyda gwledydd Ewrop wedi Brexit.
"Mae chwe deg y cant o allforion Caerdydd yn mynd i wledydd yr UE. Ry'n ni ymhlith y pum dinas Brydeinig sy'n fwyaf dibynnol ar farchnadoedd yr UE.
"Mae nifer o gwmnïau o Gaerdydd yn ddibynnol ar weithwyr o wledydd yr UE, yn enwedig cwmnïau adeiladu, manwerthu, lletygarwch, iechyd a gofal cymdeithasol."
'Marchnad allweddol'
Ychwanegodd Mr Thomas y gallai unrhyw newid mewn ffioedd effeithio ar niferoedd y myfyrwyr o'r UE tra bod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd - yr ardal lle mae'r "fargen ddinesig" yn weithredol - yn derbyn oddeutu hanner y cyllid blynyddol (£680m) a ddaw o goffrau Ewrop i Gymru.
"Os nad ydym am gael ein gadael ar ôl bydd yn rhaid i lywodraeth y DU ddod o hyd i, o leiaf £330m y flwyddyn ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn unig," meddai Mr Thomas.
"Mae aros yn yr UE felly gyfwerth â chwe bargen ddinesig dros gyfnod o 20 mlynedd os yw'r lefelau o gyllido yn aros yr un fath.
"Felly mae'n eglur i mi - hyd yn oed wedi Brexit - y bydd Ewrop yn farchnad allweddol i fusnesau a sefydliadau yng Nghaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2017
- Cyhoeddwyd15 Mawrth 2016